Dionne Jones

Fy rôl i yw cefnogi lansiad cynllun Hunanadeiladu Cymru trwy ymgysylltu ag awdurdodau lleol, ymgeiswyr a chyflenwyr trydydd parti er mwyn darparu cyllid a mwy o gyfleoedd i’r rhai sydd â dyheadau i fynd ati i adeiladu eu cartref eu hunain.

Mae fy sylfaen gwaith yn Wrecsam, fe ymunais â thîm eiddo Banc Datblygu Cymru ym mis Medi 2019.

Mae fy nghefndir yn bennaf ym maes benthyca sicredig, lle rwyf wedi treulio 13 mlynedd yn gweithio i HBOS ar draws aml-ddisgyblaethau, sy'n amrywio o wasanaethau cwsmeriaid a thanysgrifennu morgeisi i reoli prosiectau.

Rydw i eisiau defnyddio’r ystod hwn o brofiad i helpu i sicrhau canlyniadau llwyddiannus i gwsmeriaid ac awdurdodau lleol fel ei gilydd.

Cyn hynny, roeddwn yn gweithio i'r Target Group yn yr adran casgliadau ac adennill, lle roeddwn yn gweithio o fewn y swyddogaeth ymgyfreitha. Yn ddiweddarach, symudais i rôl rheoli gweithredol, a oedd yn cynnwys rheoli portffolios lluosog ac arwain tîm o benderfynwyr strategaeth a gweinyddwyr cefn swyddfa.