Donna Williams

Rydw i'n gweithio gyda'n cwsmeriaid wrth iddynt dyfu, gan chwilio am gyfleoedd i fuddsoddi ymhellach pan fydd hynny'n cefnogi eu huchelgeisiau.

Yn seiliedig yn ein swyddfeydd ngorllewin Cymru yn Llanelli, yr wyf yn falch o fod yn rhan o'n tîm monitro portffolio. Rwy'n gweithio gyda phortffolio pwrpasol o gwsmeriaid ledled gorllewin Cymru.

Cyn ymuno â Banc Datblygu Cymru ym mis Mawrth 2020 treuliais 10 mlynedd fel rheolwr busnes. Mae gen i 25 mlynedd o brofiad yn y sector bancio, a gweithiais gyda busnesau bach i ganolig ar draws amrywiaeth eang o sectorau yng ngorllewin Cymru.

Rwyf hefyd yn gynghorydd morgais cymwysedig CeMap. Rwy'n edrych ymlaen at adeiladu perthnasoedd â gweithwyr proffesiynol lleol a pherchnogion busnes.