Duncan Gray

Rydw i'n arwain tîm o swyddogion buddsoddi sy'n canolbwyntio ar fuddsoddi mewn cwmnïau sy'n gyfoethog mewn technoleg ag sy'n meddu ar eiddo deallusol cryf.

Ymunais â Banc Datblygu Cymru yn 2017 ac rwy'n darparu cyllid ecwiti i gwmnïau sy'n gyfoethog mewn technoleg. Mae'r cwmnïau hyn yn amrywio o rai newydd sy'n dechrau i rai yn eu cyfnodau cynnar i fusnesau mwy aeddfed sydd angen cyllid i dyfu ac adeiladu ar eu seiliau eiddo deallusol.

A minnau wedi fy lleoli yng ngogledd Cymru, rwy'n canolbwyntio llawer ar y rhanbarth honno, ond rwyf hefyd yn edrych ar gyfleoedd buddsoddi ar hyd a lled Cymru.

Yn ogystal ag arian cyllido, rydym ni’n cefnogi ein timau rheoli portffolio trwy weithio'n uniongyrchol â hwy a thrwy ddefnyddio ein rhwydwaith eang o gysylltiadau.

Rwyf wedi gweithio ym maes cyfalaf mentro ac ecwiti preifat ers dros 18 mlynedd. Dechreuais gyda 3i plc ac yn fwy diweddar roeddwn yn gyfarwyddwr buddsoddi ar gyfer y Gronfa Ecwiti gyda Finance Yorkshire.

Mae gennyf radd mewn Gwyddorau Naturiol o Brifysgol Caergrawnt, ac rwy'n gyd-aelod o'r Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr.