Emma Phillips

Ymunais â’r Banc Datblygu yn 2017, ar ôl treulio deng mlynedd a mwy gydag adran Benthyca Masnachol Cymdeithas Adeiladu Principality.

Treuliais ddwy flynedd fel aelod o dîm Angylion Buddsoddi Cymru, lle’r oeddwn yn gyfrifol am weithredu nifer o newidiadau allweddol, gan gynnwys cyflwyno cronfa cyd-fuddsoddi Angylion Cymru, sy’n werth £8 miliwn, a llwyfan buddsoddi newydd ar-lein.

Ym mis Mawrth 2019, sefydlais y cynllun Hunanadeiladu Cymru. Mae Hunanadeiladu Cymru yn fenter unigryw a chyffrous sy’n cynnig dull fforddiadwy i bobl gynllunio ac adeiladu eu cartrefi eu hunain yng Nghymru.

Rwy’n mwynhau chwarae rhan allweddol yn y gwaith o weithredu a rheoli’r cynllun hwn.