Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Gareth Mayhead

Rydw i’n canolbwyntio ar fuddsoddiadau ecwiti ar gyfer cwmnïau yng Nghymru, neu’r rheini sy’n adleoli, sydd â safbwynt technoleg cryf gyda photensial sylweddol i dyfu. Fy mhrif feysydd arbenigedd yw rheoli, strategaeth a masnacheiddio eiddo deallusol. 

Er bod gen i brofiad eang iawn o dechnoleg, mae gen i ddiddordeb mawr mewn technolegau glân, atebion ynni a symud oddi wrth danwydd ffosil. Rydw i wedi fy lleoli yng ngogledd Cymru ac er fy mod yn edrych ar gyfleoedd buddsoddi ar draws Cymru gyfan, rydw i’n arbennig o awyddus i weithio gyda busnesau technoleg uchel yn y canolbarth a’r gogledd.

Cyn ymuno â Banc Datblygu Cymru, treuliais dros 10 mlynedd yn rheoli trosglwyddo technoleg mewn prifysgolion (Abertawe a Bangor). Rydw i wedi helpu i fasnacheiddio ystod eang o dechnolegau drwy nodi, gwerthuso a rheoli eiddo deallusol. Rydw i wedi arwain y gwaith o weithredu cytundebau gyda dros 10 cwmni newydd sy’n deillio o brifysgolion. O ganlyniad, rydw i’n hen law ar negodi a dod o hyd i atebion cain i daro bargen. Rydw i wedi eistedd ar fyrddau nifer o gwmnïau sy’n seiliedig ar dechnoleg. 

Cyn dechrau trosglwyddo technoleg, treuliais chwe blynedd ym Mhrifysgol California Berkeley fel arbenigwr biomas. Cyn hyn, roedd gen i rolau’n amrywio o ymchwil a datblygu contractau ym maes gwyddor ffibr i ddatblygu economaidd a rheoli grantiau.