Guy Bates

Sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am ein portffolio ecwiti a benthyciadau, rwy'n gweithio gyda'r rheolwyr portffolio i lunio ein strategaeth portffolio a buddsoddi dilynol.

Ymunais â thîm ailstrwythuro'r Banc Datblygu yn 2011, gan gynnal nifer o swyddi lefel uchel ers hynny. Drwy gydol fy amser gyda'r banc datblygu, rwyf wedi cynnal ffocws brwd bob amser ar sicrhau bod gan ein cwmnïau portffolio fynediad at y cyllid a'r cyngor cywir.

Ar ôl cwblhau fy ngradd mewn Peirianneg, fe ddois i'n gyfrifydd cymwys ACA gyda Pricewaterhouse Coopers yng Nghaerdydd. Fe wnes i weithio yno am wyth mlynedd, yn cynghori busnesau a'u buddsoddwyr.