Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Harry George

Rydw i’n cefnogi busnesau newydd sy’n canolbwyntio ar dechnoleg sydd â photensial twf uchel drwy ddarparu buddsoddiadau ecwiti.

Rwy'n gweithio yn ein swyddfa yng Nghaerdydd sy'n fy ngalluogi i gefnogi mentrau technoleg ledled Cymru.

Cyn ymuno â Banc Datblygu Cymru, roeddwn yn gweithio yn y Cyngor Ymchwil Bioleg a Biotechnoleg (BBSRC). Fy rôl i oedd gwella menter a mentergarwch o fewn y biowyddorau ledled y DU, a oedd yn cynnwys cefnogi cwmnïau deillio o brifysgolion trwy raglen Arloesedd i Fasnacheiddio Ymchwil Prifysgol (ICURe) y BBSRC.

Mae gen i PhD mewn Niwrowyddoniaeth o Brifysgol Caerfaddon.