Iestyn Evans

Mae gan Iestyn hanes cryf o weithio mewn grwpiau ariannol byd-eang ochr yn ochr â Phrif Weithredwyr ac eraill i adeiladu perfformiad o fewn busnesau, gyda’i synnwyr craff o farn a ffocws ar welliant.

Mae gan fwy na dau ddegawd o brofiad ym myd cyllid a bancio.

Wedi’i eni yn Nhalgarth, Powys, a’i fagu yng nghymoedd De Cymru, astudiodd Iestyn Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn dechrau ar ei yrfa gyda Deloitte ar ddiwedd y 90au.

Mae o wedi bod mewn rolau lefel uwch gyda chyflogwyr sy’n cynnwys y Lloyds Banking Group (LBG), Virgin Money, Omni Partners, Amicus CLP a Monument yn ogystal ag amrywiaeth o rolau ar lefel prif fwrdd, gan gynnwys swyddi prif swyddog cyllid, prif swyddog gweithredu a chyfarwyddwr gweithredol.

Arweiniodd Iestyn ar newidiadau mawr a gwelliannau perfformiad yn ystod ei gyfnod fel Pennaeth Newid Cyllid a Phennaeth Cyllid gydag LBG yn ystod y 2010au cynnar.

Y tu allan i'w rolau bwrdd, mae e'n wedi gwirfoddoli ei amser a'i arbenigedd i helpu i godi arian ar gyfer elusennau sy'n cefnogi pobl ag awtistiaeth.