Iraj Amiri

Mae Iraj yn arloeswr ym maes llywodraethu a sicrwydd, gan gyfuno gwybodaeth fanwl ac awdurdodol o'r pwnc gyda'i gymhwysiad ymarferol. Mae'n cael ei gydnabod yn fyd-eang fel arbenigwr ac awdurdod ar archwilio mewnol a sicrwydd. Am flynyddoedd lawer, bu'n siaradwr cyson mewn cynadleddau archwilio mewnol ledled y byd.

Drwy gydol ei yrfa, gweithiodd yn agos gyda sefydliadau bancio a chwmnïau buddsoddi mawr Prydeinig ac Ewropeaidd. Treuliodd dros ddegawd wrth y llyw yn adran archwilio mewnol y cwmni FTSE 100, Schroders plc. Roedd Iraj hefyd yn bennaeth tîm archwilio mewnol y Wellcome Trust – gan oruchwylio’r broses o reoli dros £18 biliwn mewn buddsoddiadau.

Yn gymrawd yr ICAEW, datblygodd linell wasanaeth risg menter ar gyfer Deloitte, lle bu’n uwch bartner, gan gymryd awenau’r uned o’i ddyddiau cynnar i dîm o dros 600. Mae gan Iraj brofiad helaeth o weithio ar lefel bwrdd ac ymddiriedolwr.

Mae’n gyn ymddiriedolwr yr Ymddiriedolaeth Cynilion Cyflogaeth Genedlaethol (NEST), ac yn gyn gyfarwyddwr anweithredol Aon UK Limited a Chymdeithas Adeiladu Coventry. Ar gyfer y ddau fusnes, mae’n cadeirio eu Pwyllgor Archwilio ac yn aelod o’u Pwyllgor Risg. Mae hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol Eurocell plc.