Jill Allen

Rydw i wedi ymrwymo i ddarparu cymorth i fusnesau sy'n bwriadu tyfu ac ehangu fel eu bod yn cyrraedd eu llawn botensial.

Rydw i wedi gweithio ym maes manwerthu a bancio busnes ers 32 mlynedd, a threuliais y saith mlynedd diwethaf gyda chymdeithas adeiladu leol - yn trefnu morgeisi ar gyfer ymgeiswyr busnes yn bennaf. Yn ogystal, mae gen i gymhwyster Diploma CeMap.

Rydw i'n gweithio yn Swyddfa Llanelli, ac rwy’n gweithio gyda phortffolio o gleientiaid sydd wedi’u lleoli yn ne a gorllewin Cymru, lle rwy’n darparu cymorth, arweiniad a’r lefel uchaf o wasanaeth i gwsmeriaid.