Leanna Davies

Mae gennyf brofiad eang ym mhob agwedd o fuddsoddi, strwythuro cytundebau a rheoli portffolio ac 'rwyf wedi gweithio gyda busnesau newydd a busnesau sefydledig. Mae gen i rwydwaith eang o gysylltiadau ar draws y gymuned fuddsoddi a'r sector gyhoeddus yng Nghymru.

Mae gen i genhadaeth bersonol i ysbrydoli perchnogion busnes i dyfu eu busnesau a defnyddio cyllid ecwiti i wneud hynny. Dychmygwch beth all eich busnes ei gyflawni gyda buddsoddiad sylweddol a phartner cyllido sy'n meddwl mewn ffordd debyg i chi i gefnogi eich gweledigaeth.

Mae gen i dros 12 mlynedd o brofiad o fuddsoddi ym maes busnesau bach a chyfalaf menter wedi i mi arwain ein rhwydwaith angel busnes ers sawl blwyddyn.

Cyn ymuno â'r cwmni yr oeddwn i'n gweithio gyda Crown Cork and Seal - busnes gweithgynhyrchu aml-genedlaethol.

A minnau'n gyfrifydd rheoli cymwysedig, Mae gennyf radd mewn Cyfrifyddu a Ffrangeg o Brifysgol Caerdydd.