Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Mark Wyatt

Rwy’n ddirprwy reolwr cronfa yn y tîm Buddsoddi mewn Mentrau Technoleg, lle rwy’n canolbwyntio ar fuddsoddiadau ecwiti cam cynnar.

Rwy’n mwynhau gweithio gyda thimau rheoli entrepreneuraidd a’u grymuso i wireddu eu gweledigaeth. Y rhan o’r gwaith sy’n rhoi’r boddhad mwyaf i fi yw cefnogi cwmnïau sy’n cael effaith gadarnhaol yn lleol ac yn gymdeithasol. 

Fe wnes i ymuno â Banc Datblygu Cymru ym mis Chwefror 2025, ac rwy’n gweithio yn y swyddfa yn Wrecsam. Rwyf wedi gweithio yn y diwydiant cyfalaf menter ers 1997, ar draws amrywiaeth o wahanol gronfeydd, gan fuddsoddi mewn technoleg cam cynnar a busnesau Gwyddorau Bywyd. 

Mae gen i PhD mewn Ffarmacoleg o Brifysgol Caergrawnt a chefais Gymrodoriaeth Sainsbury mewn Gwyddorau Bywyd gan yr Academi Frenhinol Peirianneg ar gyfer fy MBA. Rwyf wedi bod yn gyfarwyddwr cwmnïau preifat a chyhoeddus, ac ar hyn o bryd rwy’n gwasanaethu ar y Bwrdd Arloesedd ym Mhrifysgol Lerpwl.