Mike Owen

Mike yw cyfarwyddwr buddsoddi'r grŵp. Fel aelod o'r uwch dîm rheoli, mae'n gyfrifol am weithgareddau buddsoddi uniongyrchol ar draws Grŵp Banc Datblygu Cymru ac mae'n gwasanaethu fel aelod o'r pwyllgor buddsoddi.

Mae'n goruchwylio gweithgareddau rheoli cronfeydd strategol a gweithredol y Banc Datblygu ac ef yw prif weithredwr FW Capital, cangen rheoli cronfeydd awdurdodedig y Grŵp gan yr AYA, lle mae'n arwain yr holl fentrau codi arian allanol.

Mae Mike hefyd yn cadeirio swyddfa rheoli newid y Grŵp ac yn goruchwylio'r swyddogaeth TGCh. Cyn ymuno â'r sefydliad yn 2002, bu Mike yn gweithio fel rheolwr busnes lleol i Fanc Barclays ym Mae Caerdydd.