Nicola Crocker

Fel rheolwr y gronfa, rwyf bellach yn gyfrifol am ein tîm o swyddogion gweithredol datblygu eiddo arbenigol ledled Cymru ac am gyflawni ein cronfeydd datblygu eiddo, a’n nod yw buddsoddi tua £700m mewn cynlluniau datblygu newydd erbyn 2033.

Mae ein tîm eiddo arbenigol yn deall heriau adeiladu ac yn meithrin perthnasoedd cryf â datblygwyr i ddarparu cyllid datblygu hyblyg ledled Cymru.

Ymunais â’r Banc Datblygu yn 2017 yn dilyn gyrfa hir gyda Chymdeithas Adeiladu’r Principality mewn rolau amrywiol, gyda fy rôl olaf fel rheolwr perthynas yn darparu buddsoddiad preswyl a masnachol a chyllid datblygu.

Ers ymuno â'r cwmni, rwyf wedi gweithio gyda datblygwyr preswyl a masnachol yn ne Cymru gan ddarparu atebion arloesol i gyllid prosiectau a rheoli tîm eiddo de Cymru.