Nicola Edwards

Rwy'n arwain tîm o swyddogion buddsoddi ar hyd a lled Cymru sy'n canolbwyntio ar wneud benthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 i fusnesau bach uchelgeisiol.

Gall fy nhîm helpu gyda chostau dechreuol, gwariant cyfalaf a phrynu stoc. Gellir defnyddio'r benthyciadau hefyd i ddatgloi buddsoddiad ychwanegol sydd ei angen yn fawr.

Rydw i wedi gweithio ym myd bancio busnesau bach am y rhan fwyaf o'm gyrfa fancio 25 mlynedd, yn flaenorol roeddwn yn rheoli portffolio o 200 fusnesau lleol oedd ag ystod eang o ofynion cyllido.

Cyn ymuno â'r tîm micro fenthyciadau yn 2013, roeddwn yn arwain tîm o 12 fel rheolwr busnes ardal gyda Barclays.