Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Rachel Miles

Rwy'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd datblygu perthynas hirdymor effeithiol â busnesau.

Rwy'n credu bod ein cryfder fel cefnogwr hirdymor yn cyfuno ein harbenigedd buddsoddi gydag agwedd 'traed ar y ddaear.' Mae fy nhîm yn annog busnesau sefydledig i adeiladu ar eu llwyddiant gyda buddsoddiad pellach.

Mae pob dydd yn wahanol wrth reoli portffolio ar draws Cymru gyfan sy'n cwmpasu llu o sectorau a diwydiannau. Fel tîm, rydym yn ymdrechu i feithrin perthynas hirdymor gyda'n cleientiaid a gweithio gyda hwy i helpu i oresgyn yr heriau a'r cyfleoedd y mae perchnogion busnesau yn eu hwynebu bob dydd.

Yn gymwysedig drwy'r ACCA, mae gennyf brofiad buddsoddi newydd a dilynol helaeth, wedi i mi ymuno â Banc Datblygu Cymru yn 2001.