Rhiannon Brewer

Gan gynnwys amrywiaeth eang o sectorau, rwy'n arbenigo mewn strwythuro benthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 ar gyfer busnesau newydd a busnesau bach sefydledig yng Nghymru.

Rwy'n hoffi hyrwyddo hyblygrwydd, agosatrwydd a chysylltiad un-i-un â thimau rheoli busnes bach a chanolig pryd bynnag y bo modd. Mae pob cwmni yn wahanol ac mae pob un o'r bargeinion yn unigryw.

Ers ymuno â'r cwmni yn 2003, rwyf wedi gweithio'n helaeth ym maes datblygu busnes a chael profiad uniongyrchol o sut mae busnesau'n gweithredu yn ystod camau twf cynnar.

Trwy weithio o fewn y tîm micro dros gyfnod o nifer o flynyddoedd rhoddwyd y cyfle i mi weithio gyda busnesau sy'n gweithredu mewn ystod eang o sectorau yn amrywio o fanwerthu i uwch weithgynhyrchu.