Roger Jeynes

Mae Roger yn gyfarwyddwr anweithredol annibynnol ar gyfer Banc Datblygu Cymru ac mae'n aelod o'i bwyllgor buddsoddi.

Mae Roger yn aelod o'r Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol a’r Pwyllgor Archwilio a Risg.

Ar hyn o bryd mae hefyd yn gwasanaethu ar fyrddau Downing Three VCT plc, Mapway Limited a Charborough Capital Limited, ac mae'n ymddiriedolwr elusen Lloyd Reason Foundation.

Roedd gyrfa gynnar Roger yn cynnwys nifer o rolau technegol, marchnata a rheoli cyffredinol yn IBM, EMC a Pyramid Technology yn y DU, yr Eidal ac UDA. Rhwng 1997 a 2006 roedd yn brif weithredwr ar Interregnum plc, banc masnachwyr technoleg.

Yn y rôl hon, rheolodd y defnydd o gyfalaf buddsoddi sylweddol i ystod eang o gwmnïau cam cynnar a rhestrwyd ar y Farchnad Fuddsoddi Amgen (a adwaenir yn gryno fel AIM), a gwasanaethodd ar fyrddau mwy na dwsin o gwmnïau mewnfuddsoddi a sawl ymddiriedolaeth menter cyfalaf (YMC).

Yn raddedig mewn mathemateg o Brifysgol Sheffield ac yn Gymrawd o'r RSA, mae gan Roger dystysgrif mewn rheoli buddsoddiadau gan IIMR, ac roedd yn Athro Ymarfer Rheolaeth ym Mhrifysgol Anglia Ruskin rhwng 2008 a 2017.