Sarah Smith

Ar hyn o bryd rwy'n rheoli portffolio o gwmnïau sbarduno, gan eu helpu i dyfu gyda chyfleoedd buddsoddi dilynol yn ogystal â buddsoddi mewn cwmnïau sbarduno technoleg newydd.

Mae gennyf dros ddegawd o brofiad o weithio gyda Banc Datblygu Cymru, gan gydlynu gweithgareddau Rhaglen Ddeillio Cymru yn y lle cyntaf trwy gydweithredu Sefydliadau Addysg Uwch Cymru i fasnacheiddio eiddo deallusol a darparu buddsoddiad.

Rwyf hefyd yn eistedd ar fwrdd Venturefest Cymru - cynhadledd flynyddol sy'n canolbwyntio ar dechnoleg.

Rwyf wedi bod yn aelod ers pan ddechreuodd y digwyddiad yn 2013.