Sienna Kennedy

Rwy'n gweithio yn swyddfa Caerdydd ac ymunais â Banc Datblygu Cymru yn 2024 fel rhan o'r tîm Cyfleusterau, gan symud ymlaen i'r tîm Gwasanaethau Eiddo yn 2025.

Yn fy rôl, rwy'n falch o ddarparu gwasanaeth o safon uchel i ymgeiswyr drwy gynnig canllawiau clir a hygyrch ar draws ystod o gynlluniau, gan gynnwys cynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru.

Rwy'n gweithio'n agos gyda chydweithwyr ym mhob rhan o’r sefydliad er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid yn cael eu cyfeirio at y cymorth a’r datrysiadau cyllid mwyaf addas, gan eu helpu i gael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen arnynt yn gyflym ac yn hyderus.