Stewart Williams

Rwy’n rheoli portffolio o fusnesau Cymreig sefydledig yng nghanolbarth a gogledd Cymru.

Rydw i'n credu, drwy gydweithio â chwsmeriaid i ddatblygu perthynas hirdymor effeithiol, y gallwn helpu busnesau Cymru i gyflawni eu huchelgais twf.

Cyn ymuno â Banc Datblygu Cymru, gweithiais i Barclays yn rheoli gwahanol bortffolios cleientiaid o wahanol feintiau ar draws amrywiaeth eang o sectorau. 

Mae gen i dros 30 mlynedd o brofiad o weithio yn y farchnad fenter busnesau bach i ganolig, yn bennaf fel rheolwr perthynas.