Tom Linney

Rwy’n frwd dros ecosystem technoleg Cymru ac rwyf wedi ymrwymo i annog twf yr ecosystem honno drwy gefnogi sylfaenwyr a chwmnïau arloesol. 

Ymunais â’r Banc Datblygu yn 2025, a thrwy fy rôl rwy’n darparu buddsoddiad strategol i helpu i sbarduno arloesedd a thwf yn y rhanbarth.

Cyn ymuno â Banc Datblygu Cymru, rwyf wedi cael amrywiaeth eang o brofiadau ym meysydd diwydiant a gwasanaethau cynghori.

Mae gennyf radd mewn Economeg o Brifysgol Aberystwyth.