Will Campion

Rwyf yn arwain gwelliannau busnes o fewn y Banc Datblygu gyda'r nod o alluogi'r tîm i weithio'n gallach, darparu gwasanaeth mwy effeithlon a gwell profiad i gwsmeriaid.

Rwyf wedi fy lleoli yng Nghaerdydd ac rwy'n cwmpasu'r sefydliad cyfan. Rwy'n gweithio gyda'r timau buddsoddi a'r prosiect trawsnewid TG i adolygu a gwella prosesau busnes mewnol a sicrhau eu bod yn gweithio i ni, y cwsmeriaid a'r rheoleiddwyr.

Ers cwblhau gradd mewn peirianneg rwyf wedi gweithio mewn diwydiannau gweithgynhyrchu a gwasanaeth i wella effeithlonrwydd a darparu profiadau gwych i gwsmeriaid.

Yn fwyaf diweddar, bûm yn gweithio i Interserve ar eu contractau rheoli cyfleusterau'r llywodraeth a chyfleusterau amddiffyn ledled y DU. Rwyf wedi gweithio gyda busnesau ledled Cymru yn ystod fy nghyfnod fel ymgynghorydd gweithgynhyrchu.

Rwy'n Gymrawd o Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol ac yn gyfarwyddwr anweithredol ar Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen. Mae Awen yn rhedeg y llyfrgelloedd, theatrau a pharc gwledig yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr.