Costcutter

Stewart-Williams
Swyddog Portffolio

Rydyn ni'n helpu i fwydo siopau eraill a Threfyclo yn ei chyfanrwydd. Mae'n bwysicach nag erioed cadw ein tref farchnad yn fyw ac yn ffynnu. Mae'r cyllid hwn yn caniatáu i fy nghynlluniau gael eu gwireddu; prynu'r siop, ailaddurno'r tu allan, diweddaru'r brandio, ailosod yr offer sydd wedi dyddio ac adnewyddiad llawn. Mae cwsmeriaid yn disgwyl cael profiad boddhaol pan fyddant yn mynd i mewn i siop ac mae'n bwysig bod yn gyfartal â'r archfarchnadoedd.

John Ewens, Perchennog, Costcutter Knighton

Benthycodd Banc Datblygu Cymru £200,000 i John Ewens i gefnogi prynu prydlesol ac adnewyddu'r siop Costcutter yn Nhrefyclo, Powys.

Gwelodd John sy'n chwe deg saith oed y cyfle i brynu'r siop fel ffordd i ddychwelyd at ei wreiddiau ddegawd ar ôl rheoli'r siop gyntaf.

Cred John y bydd y siop yn helpu i gadw a dod â phobl newydd i'r stryd fawr yn y dref fach hon yng nghanolbarth Cymru.

Mae siopau cyfleus yng Nghymru yn darparu bron i 23,000 o swyddi i bobl leol. Helpodd y buddsoddiad o Gronfa Busnes Cymru i ddiogelu swyddi 15 aelod o staff.