Dulas

Mae’r benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru wedi rhoi lle i ni anadlu. Mae wedi darparu cyfalaf gweithio mawr ei angen sy'n golygu ein bod wedi gallu rheoli ein llif arian yn ystod cyfnod anodd iawn na allai neb fod wedi'i ragweld.

Ruth Chapman, Rheolwr Gyfarwyddwr

Mae Dulas o Fachynlleth, cwsmer presennol i'r Banc Datblygu, yn gwmni ynni adnewyddadwy a dderbyniodd fenthyciad Cynllun Benthyciad Busnes Covid-19 Cymru o £240,000 i helpu i reoli llif arian yn ystod pandemig Covid-19.

Gan weithio gyda datblygwyr gwynt, heulol a dŵr, mae'r cwmni'n cyflogi 47 ac wedi wynebu aflonyddwch oherwydd yr effaith y mae cyfyngiadau Covid-19 wedi'i gael ar archebu llety i'r rheini sy'n gweithio o bell ar brosiectau gosod.

Esboniodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Ruth Chapman: “Cymerodd beth amser inni weld gwir effaith Covid-19 ar ein busnes ond roeddem yn gwybod o’r dechrau y byddai angen rhwyd ddiogelwch arnom o ran cyfalaf gweithio.

“Mae’r benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru wedi rhoi lle i ni anadlu. Mae wedi darparu cyfalaf gweithio mawr ei angen sy'n golygu ein bod wedi gallu rheoli ein llif arian yn ystod cyfnod anodd iawn na allai neb fod wedi'i ragweld. Ynghyd â'r Cynllun Cadw Swyddi gan Lywodraeth y DU, rydym wedi gallu dal ati drwy'r storm ac rydym bellach yn addasu ein prosesau gweithio i sicrhau ein bod yn dysgu byw gyda'r normal newydd."