The Ethikos Group

Ein cenhadaeth yn The Ethikos Group erioed fu caffael busnesau lle gallwn weld cyfle yn y farchnad i dyfu a gwella effeithlonrwydd nid yn unig o fewn y busnesau’r ydyn ni yn eu caffael, ond hefyd ar draws y grŵp ehangach a chwmnïau gweithredu eraill.

Scott Davis, Prif Weithredwr, The Ethikos Group

Trosolwg o’r Busnes 

Mae The Ethikos Group, a leolir yn Sandycroft, Sir y Fflint, wedi bod yn caffael ac yn esblygu busnesau er 2017. Sefydlwyd The Ethikos Group gan Scott a Gail Davis ond mae wedi cael llwyddiant ardderchog yn gwella elw, yn sicrhau arbedion, yn ad-dalu dyledion ac yn hybu twf. At ei gilydd, mae eu tîm yn meddu ar flynyddoedd o brofiad mewn diwydiant a chyllid corfforaethol gan ganolbwyntio ar gaffael busnesau a reolir gan y perchnogion. 

Sefydlwyr

Sefydlwyd The Ethikos Group gan Scott Davis, Prif Weithredwr a Gail Davis, Prif Swyddog Risgiau, ym maes peirianneg y mae cefndir y grŵp, gyda’i arbenigedd mewn peirianneg trydanol – rhywbeth sydd wedi ysgogi eu hawydd i weithio gyda busnesau peirianneg.  Er gwaethaf canlyniadau TGAU da Scott, penderfynodd ddilyn y trywydd prentisiaeth, gan ddechrau ei yrfa gyda British Steel. Y profiad hwn sydd wedi datblygu angerdd Scott am brentisiaethau, ac mae’n falch o fod yn llysgennad i Prentisiaethau Cymru, gan ddarparu cyfleoedd i beirianwyr y genhedlaeth nesaf. 

Diben y busnes 

Nod The Ethikos Group yw esblygu busnesau y maent yn eu caffael a rhoi bywyd o’r newydd iddynt, er mwyn eu datblygu a’u tyfu yn fusnes cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Maent yn gweithio i roi strwythur a hyder i ddarpar gaffaeliadau, i roi tawelwch meddwl iddynt y bydd The Ethikos Group yn rhoi cartref da i’w busnes.  Eu bwriadau yw datblygu heb risg, cynnal eu henw da, a thyfu drwy ddiwydrwydd a chynllunio ar gyfer yr hirdymor.

Dangoswyd hyn fwy nag un waith, gyda The Ethikos Group yn berchen ar ddau gwmni gweithredu arall. Yn 2017, fe wnaethant gaffael Delta Rock Group Ltd, sy’n fusnes diwydiannol, trydanol ac awtomeiddio arbenigol. Yn fuan wedyn prynwyd Gilks (Nantwich) Ltd yn 2019, sy’n fusnes rheoli cyfleusterau, trydanol a mecanyddol sefydledig, a fu’n dathlu trigain mlynedd y llynedd.

Cyllid

Defnyddiodd The Ethikos Group ein buddsoddiad saith ffigur i gaffael Print-Tech Solutions a leolir yn Hyde, sy’n cyflenwi gwasanaethau a chynhyrchion o’r radd flaenaf i’r diwydiant argraffu fflecsograffig. Roedd y sefydlydd, Steve Turner, yn awyddus i weld y busnes yn symud ymlaen i’r lefel nesaf, a sefydlodd gynllun hirdymor i alluogi iddo gynllunio’n raddol ar gyfer ei ymddeoliad, gan wybod bod y busnes yr oedd wedi’i greu mewn dwylo diogel.

Fe wnaeth y symudiad ganiatáu i Ethikos ddwyn ynghyd fusnesau sy’n ategu ei gilydd a oedd yn gwasanaethu yn y sector argraffu arbenigol a rhoi iddynt le i ehangu ymhellach. Drwy gyfleoedd yn y farchnad bresennol a drwy ddal i arloesi gyda’u deunyddiau glanhau, ceir cyfleoedd i arallgyfeirio’r busnes i farchnadoedd gwahanol.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Yn y 18 mis nesaf, sefydlwyd prosesau a gweithdrefnau newydd a gwnaed trosolwg ar y cynhyrchion a’r gwasanaethau, er mwyn symleiddio’r busnes, gan roi ffocws pendant ar gryfderau Print Tech Solution yn creu deunyddiau glanhau arbenigol. 

Mae Scott yn awr wedi cyflwyno ei hun ac mae’n ymweld â llawer o’r cwsmeriaid craidd, gan alluogi iddo gael dealltwriaeth fanwl o’r heriau y mae eu cwsmeriaid yn eu hwynebu a sut maent yn gobeithio symud ymlaen. Gyda trosolwg a darlun clir o’r galwadau i’r dyfodol, mae Print Tech Solutions wedi cysoni eu strategaeth arfaethedig â marchnadoedd eu cwsmeriaid craidd. 

I adlewyrchu’r newidiadau a chefnogi’r busnes i’r dyfodol, maent wedi esblygu’r brand fel ei fod yn cyd-fynd â’r cynnydd a gynlluniwyd ar gyfer y busnes. Cafodd y brand ei lansio ar ei newydd wedd ochr yn ochr â’u gwefan newydd sbon gan roi mwy o hwb i’w presenoldeb ar-lein.

Mae Print Tech Solutions yn dal i gefnogi eu cwsmeriaid i allu argraffu i safon uchel yn gyson, drwy gyfrwng deunyddiau glanhau effeithiol a diogel, gan ganfod cyfleoedd i’r dyfodol hefyd i helpu eu sylfaen cleientiaid presennol a newydd i ffynnu.

Ym mis Medi 2023, cymerodd Scott yr awenau fel Rheolwr-Gyfarwyddwr. Steve Turner, sefydlydd Print Tech Solution, gyda’i gyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd o’r broses flecsograffeg, fydd yn ysgwyddo rôl y Pennaeth Arloesi. Bydd y rôl yn galluogi’r busnes i ddal i ganolbwyntio ar wasanaethau technegol a deunyddiau glanhau arbenigol, a’u datblygu ymhellach.

Beth mae pobl yn ddweud

Rydyn ni wir yn falch fod Print-Tech Solutions Ltd wedi cael ei ddwyn i mewn i’r grŵp. Mae eu harbenigedd a’u henw da mewn sector arbenigol iawn yn ychwanegiad i’w groesawu i The Ethikos Group ac mae’n cydweddu â’n cwmnïau gweithredu eraill.

Ein cenhadaeth yn The Ethikos Group erioed fu caffael busnesau lle gallwn weld cyfle yn y farchnad i dyfu a gwella effeithlonrwydd nid yn unig o fewn y busnesau’r ydyn ni yn eu caffael, ond hefyd ar draws y grŵp ehangach a chwmnïau gweithredu eraill.

Rydyn ni wedi treulio amser yn mynd i’r afael â deall y diwydiant a’r sector marchnad y mae’r busnes yn gweithredu ynddo, er mwyn sefydlu cynllun ar gyfer tyfu. Pan rydyn ni’n caffael busnes, rydyn ni’n teimlo ei bod yn hanfodol deall y busnes yn llwyr a dod i adnabod y tîm i ddechrau, cyn gwneud unrhyw newidiadau byrbwyll. 

Rydyn ni’n awr mewn man lle’r ydyn ni’n teimlo’n hyderus ynglŷn â sut rydyn ni eisiau cynyddu a thyfu’r busnes. Mae hwn felly yn amser cyffrous imi, wrth inni ddechrau esblygu er mwyn arallgyfeirio a thyfu Print Tech Solutions. Gyda’r cymorth cychwynnol gan Banc Datblygu Cymru, rydym wedi llwyddo i dyfu The Ethikos Group ymhellach, o’n pencadlys yng Nglannau Dyfrdwy.

Scott Davis, Prif Weithredwr, The Ethikos Group

Rydyn ni’n falch iawn o allu cefnogi The Ethikos Group wrth iddo ddwyn i mewn Print-Tech Solutions Ltd i’r rhestr o gwmnïau y mae’n berchen arnynt yn barod, gan sicrhau twf parhaus i gwmni Cymreig llwyddiannus wrth iddo ymestyn ei weithrediadau a chynyddu faint o waith arbenigol y gall ei wneud yn y sector hwn.

Rhian Jones, Swyddog Gweithredol Portffolios, Banc Datblygu Cymru

Be' nesaf?

Gwnewch ymholiad cychwynnol drwy ein ffurflen cysylltu â ni a gallwn ddechrau trafod eich opsiynau.

Cysylltu â ni