Gaea

Donna-Strohmeyer
Swyddog Buddsoddi

Roeddwn i wir yn meddwl mai 2020 fyddai fy mlwyddyn i, ac felly bu hi, ond nid yn fel roeddwn i'n ei ddisgwyl. Defnyddiais fy arian fy hun a micro fenthyciad gan y Banc Datblygu i dalu costau cychwynnol, gan gynnwys prynu eitemau rydw i eu hangen er mwyn gwneud ein prif gynhyrchion yn Gaea. Rwy'n falch fy mod i wedi cael y gefnogaeth honno, yn enwedig gan fod cymaint wedi newid i ni fel busnes a'r dirwedd adwerthu yn ei gyfanrwydd mewn cyfnod byr iawn.

Bridget Lewis, Perchennog

Agorodd busnes newydd cynnyrch baddon heb greulondeb Gaea eu siop gyntaf yng nghanol tref Caerffili ddiwedd mis Chwefror 2020, gyda chefnogaeth micro fenthyciad o £10,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Syniad disglair yr fentergarwraig leol Bridget Lewis yw'r busnes hwn sydd newydd ddechrau. Fe aeth hi ati i ddefnyddio'r arian i rentu ei siop ac i brynu deunyddiau i wneud ei hamrywiaeth o gynhyrchion baddon a harddwch ynghyd â darparu cyfalaf gweithio yn ystod ei misoedd cyntaf fel busnes newydd.

Pan aeth y Deyrnas Unedig i mewn i gyfnod clo ym mis Mawrth eleni, dim ond am dair wythnos yr oedd siop Bridget wedi bod ar agor. Pan gaeodd ei drysau'r wythnos honno, ‘doedd hi ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl dros yr ychydig fisoedd nesaf. Dim ond tri mis yn ddiweddarach, lansiodd siop ar-lein yn danfon cynhyrchion Gaea ledled y DU i ateb y galw, sydd wedi tyfu yn ystod y pandemig.

Digwyddodd y symudiad o siop gorfforol i fanwerthwr ar-lein ar ôl iddi gael ei llethu gan y gefnogaeth gan gwsmeriaid.