O ystyried y rôl y mae’r Fenai a’r ardal gyfagos yn ei chwarae yn amgylchedd naturiol Cymru, rydyn ni am wneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gael cyn lleied o effaith â phosibl ar yr amgylchedd hwnnw, ac rydyn ni’n gwybod bod hynny’n bwysig i’n cwsmeriaid hefyd,
Alison Lea-Wilson, Cyd-sylfaenydd, Halen Môn
Trosolwg o’r cwmni
Busnes teuluol ar Ynys Môn yng Ngogledd Cymru yw Halen Môn. Sefydlwyd y busnes yn 1996 ac mae’n cynhyrchu halen môr Cymreig unigryw o’r radd flaenaf, ynghyd â chynhwysion ategol eraill.
Cyd-sylfaenwyr
David Lea-Wilson ac Alison Lea-Wilson - Cyfarfu’r cwpl ym 1973 ym Mhrifysgol Bangor ac fe wnaethant syrthio mewn cariad ag Ynys Môn. Aethant ati i sefydlu Mona Seafoods yn 1978, gan werthu pysgod yn undeb myfyrwyr Prifysgol Bangor, ac maen nhw wedi bod yn cydweithio ers hynny.
Pwrpas y busnes
Mae Halen Môn yn fusnes byd-enwog, ac mae’n allforio halen môr sy’n cael ei gynaeafu ar Ynys Môn i bedwar ban byd.
Mae cynnyrch y cwmni’n cynnwys yr amrywiaeth boblogaidd o Halen Môr Pur, Saws Garlleg Du, Dŵr Mwg, Saws ‘Bloody Mary’, Taeniad Caramel Hallt, a Saws Barbeciw Myglyd.
Mae gan Halen Môn statws Enw Tarddiad Gwarchodedig (PDO) yn Ewrop, sy’n cydnabod natur unigryw ei gynnyrch. Mae hefyd yn cyflenwi archfarchnadoedd mawr ar hyd a lled y DU gan gynnwys Waitrose a Marks & Spencer.
Mae’r cynnyrch wedi mynd ymlaen i greu argraff yn rhyngwladol fel ffefryn ymysg bwydgarwyr. Cafodd siocledi’r cwmni eu rhoi’n anrheg i ymwelwyr â’r Tŷ Gwyn gan yr Arlywydd Barack Obama, a chafodd ei gynnyrch ei weini yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012. Mae ei gynnyrch hefyd wedi bod ar y fwydlen yn rhai o fwytai gorau’r byd, gan gynnwys The Fat Duck.
Yn ogystal â bod yn rhan greiddiol o fusnes cynaeafu halen Halen Môn, mae canolfan ymwelwyr y Tŷ Halen hefyd yn cynnwys siop, canolfan addysg, baddonau gwymon, a chanolfan gymunedol.
Gweithio gyda ni
Cymerodd Halen Môn y cam nesaf yn ei daith ddatgarboneiddio a chael benthyciad o £77,000 gan y Banc Datblygu, drwy’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.
Defnyddiodd y busnes y benthyciad i osod system paneli solar 100kw newydd ar do’r Tŷ Halen.
Amcangyfrifir y bydd gosod y paneli newydd a’r system gynhyrchu gysylltiedig yn arbed mwy na 380 tunnell o garbon (y flwyddyn).
Bydd y paneli newydd yn cyfrannu’n sylweddol at anghenion ynni’r ganolfan, yn ogystal â galluogi’r busnes i allforio ynni dros ben yn ôl i’r grid. Cafodd y system ffotofoltäig newydd ei dylunio a’i gosod gan fusnes arall yng Ngogledd Cymru, sef Hafod Renewable Energy o Lanelwy.
Beth mae pobl yn ei ddweud
O ystyried faint o le sydd ar doeau ein cwt halen a’n canolfan ymwelwyr yn y Tŷ Halen, roedd gosod paneli solar ar y safle i leihau ein hallbwn carbon a’n biliau ynni yn gam nesaf amlwg, a’r cymorth a ddarparwyd drwy’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd oedd yr union beth a oedd ei angen arnom.
Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi gweithio gyda Banc Datblygu Cymru a Hafod Renewable Energy i osod y system newydd. O ystyried y rôl y mae’r Fenai a’r ardal gyfagos yn ei chwarae yn amgylchedd naturiol Cymru, rydyn ni am wneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gael cyn lleied o effaith â phosibl ar yr amgylchedd hwnnw, ac rydyn ni’n gwybod bod hynny’n bwysig i’n cwsmeriaid hefyd.
Alison Lea-Wilson, Cyd-sylfaenydd, Halen Môn
Roedd hi’n bleser gweithio gyda’r tîm yn Halen Môn. Maen nhw’n un o frandiau mwyaf adnabyddus Cymru ac mae hwn yn un o nifer o fuddsoddiadau mae’r busnes wedi’u cael gan Fanc Datblygu Cymru. Rydyn ni’n falch o fod wedi’u cefnogi nhw drwy’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd wrth iddyn nhw symud ymlaen yn eu taith ddatgarboneiddio.
John Babalola, Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol, Banc Datblygu Cymru