Nolan uPVC

Vanessa-Smith
Swyddog Portffolio

Rydym yn fusnes teuluol agos sydd â gwerthoedd ac egwyddorion Nolan wrth wraidd popeth a wnawn. Mae’r cyllid gan Fanc Datblygu Cymru wedi gwneud y fargen hon yn bosibl ac mae eu cefnogaeth barhaus fel cyfranddaliwr yn golygu ein bod yn edrych ymlaen yn fawr at yr hyn sydd gan y dyfodol i'w gynnig.

Jason James, Cyfarwyddwr

Mae saer yng Nghaerfyrddin wedi helpu ei dîm rheoli i gwblhau allbryniant rheoli gwerth miliynau (AllRh) o'r cwmni gwydro dwbl a sefydlodd ym 1989.

Wedi'i ariannu gan Fanc Datblygu Cymru gyda chymysgedd o fenthyciad ac ecwiti, mae tîm rheoli Nolan uPVC arobryn wedi prynu'r busnes gan y sylfaenydd, Nolan Nicholas.

Mae gan y tîm AllRh Paul Murphy, Adrian Phillips a Jason James brofiad cyfunedig o dros 80 mlynedd gyda Nolan.