OpenGenius

Rydym yn falch ein bod wedi ein lleoli yng Nghymru, ac yn credu'n gryf y gall Ayoa helpu pobl i wella eu prosesau gwaith ledled y byd.

Chris Griffiths, perchennog a sylfaenydd.

Mae OpenGenius o Gaerdydd yn datblygu meddalwedd uwch-dechnoleg ar gyfer arloeswyr a thimau creadigol.

Mae ei ap, Ayoa, wedi cael ei ddefnyddio gan dimau ac unigolion o Disney, Prifysgol Harvard, Nike, Ralph Lauren, Coca-Cola a McDonald's i enwi ond ychydig.

Ayoa yw offeryn cyntaf y byd i gyfuno mapio meddwl ar y we, negesydd gwib a rheoli tasgau mewn un lle yn unig.

Nawr, yn dilyn pecyn buddsoddi ecwiti cychwynnol o £500,000 gan Fanc Datblygu Cymru a £600,000 arall gan fuddsoddwyr preifat, mae ei olygon ar ehangu'n fyd-eang ac arnofio ar y farchnad stoc.

Bydd y buddsoddiad hwn o £1.1m yn rhoi’r cyfalaf sydd ei angen ar OpenGenius i fireinio ei lwyfan Meddalwedd fel Gwasanaeth arloesol ymhellach, a chynyddu’i raddfa i gyflymu ei gynlluniau ehangu byd-eang.