Trosolwg o'r busnes
Mae The Pattyman yn gynhyrchydd bwyd crefftus o Gaerdydd sy'n creu cynhyrchion wedi'u hysbrydoli gan Jamaica ac sydd wedi'u dylanwadu gan ddiwylliant a hunaniaeth Cymru.
Wedi'i sefydlu yn 2021 gan Leroy Williams, mae'r busnes yn cynhyrchu amrywiaeth o gynhyrchion gan gynnwys Jeli Pupur Coch sydd wedi ennill gwobrau, sawsiau, relishys, marinadau jerk, pwnsh rhês a phatis Jamaicanaidd. Gan weithredu o Ystâd Ddiwydiannol Tredelerch yng Nghaerdydd, mae The Pattyman yn gwasanaethu cwsmeriaid uniongyrchol yn ogystal â'r marchnadoedd cyfanwerthu a masnachol ledled Cymru a thu hwnt.
Sylfaenydd
Sefydlodd y sylfaenydd a'r perchennog, Leroy Williams, The Pattyman fel ffordd o ddathlu dwy ochr ei etifeddiaeth. Wedi'i ysbrydoli gan ei rieni diweddar, tad o Jamaica a ddaeth i Gymru fel rhan o genhedlaeth Windrush a mam o Gymoedd Cymru, adeiladodd Leroy y busnes ar sail ryseitiau teuluol traddodiadol a'r awydd i ddod â dylanwadau Jamaicanaidd a Chymreig ynghyd yn ei fwyd.
Pwrpas y busnes
Wrth galon The Pattyman mae'r cysyniad Cymreig o gynefin: ymdeimlad o berthyn a chysylltiad â lle. Mae'r busnes yn cyfuno blasau dilys wedi'u hysbrydoli gan Jamaica â hunaniaeth ddiwylliannol Gymreig, gan greu cynhyrchion sy'n adlewyrchu traddodiadau teuluol, etifeddiaeth a chymuned.
Wrth i'r galw gynyddu, mae ffocws Leroy wedi symud tuag at ehangu capasiti cynhyrchu, cryfhau gweithrediadau ac adeiladu'r gallu i gefnogi twf cynaliadwy hirdymor.
Gweithio gyda ni
Dyddiad y rownd gyllido fwyaf diweddar: 2026
Maint: £50,000
Cronfa: Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru
Buom yn cefnogi The Pattyman gyda microfenthyciad o £50,000 i helpu i ateb y galw cynyddol gan gwsmeriaid a'r farchnad fasnach. Bydd y cyllid yn cefnogi cynnydd mewn capasiti cynhyrchu ac yn cryfhau sylfeini gweithredol y busnes wrth iddo fynd i mewn i'w gyfnod nesaf o dwf.
Mae'r buddsoddiad yn dangos ein ffocws ar helpu busnesau Cymru i ehangu'n gynaliadwy drwy ddarparu cyllid masnachol ymarferol, gan eu galluogi i gynyddu capasiti, gwella cynhyrchiant a manteisio ar gyfleoedd newydd yn y farchnad.
Beth mae pobl yn ei ddweud
Leroy Williams, Sylfaenydd a Pherchennog The Pattyman, meddai:
"Dechreuodd The Pattyman fel ffordd o anrhydeddu fy rhieni a dathlu'r diwylliannau a'm lluniodd. Daeth fy nhad i Gymru fel rhan o genhedlaeth Windrush ac roedd fy mam yn dod o Gymoedd Cymru, felly roeddwn i eisiau creu rhywbeth a oedd yn dod â'r elfennau hynny o fy hunaniaeth ynghyd.
"Mae bwyd bob amser wedi bod yn ymwneud â theulu, cymuned a chysylltiad. Mae stori y tu ôl i bob rysáit ac mae pob cynnyrch yn adlewyrchu'r traddodiadau a drosglwyddwyd i mi.
"Mae'r buddsoddiad hwn yn rhoi'r llwyfan i ni adeiladu ar yr hyn rydym wedi'i gyflawni hyd yma. Bydd yn ein helpu i gynyddu capasiti, cefnogi twf yn y dyfodol a pharhau i rannu'r blasau a'r etifeddiaeth sy'n gwneud The Pattyman yn unigryw â mwy o gwsmeriaid."
Dylan Evans, Swyddog Gweithredol Buddsoddi Cynorthwyol, Banc Datblygu Cymru, meddai:
"Mae The Pattyman yn enghraifft wych o fusnes Cymreig gyda chynnig unigryw, gwerthoedd cryf ac uchelgeisiau twf clir. Mae Leroy wedi adeiladu brand sy'n sefyll allan oherwydd ansawdd ei gynhyrchion a'r stori y tu ôl iddynt.
"Mae busnesau fel The Pattyman yn dangos sut y gall buddsoddiadau llai gwneud gwahaniaeth ystyrlon wrth gynyddu capasiti, datblygu gweithrediadau a chefnogi twf cynaliadwy. Edrychwn ymlaen at gefnogi Leroy wrth iddo symud y busnes yn ei flaen."