Blaenau Gwent: Ydych chi’n eisiau tyfu eich busnes?

Rydym yn cynnal cymhorthfa galw heibio 'Tyfu eich busnes' ar y 14eg o Chwefror 2018.

Dewch i siarad â Tara Lee-Fox am eich busnes a'ch cynlluniau.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i siarad ag ymgynghorydd o Busnes mewn Ffocws mewn perthynas â'r Start Up Loan Company. Bydd Band Eang Cyflym hefyd ar gael i siarad â nhw ar y diwrnod.

Gall busnesau sy'n seiliedig ym Mlaenau Gwent wneud cais am fenthyciadau o £1,000 a mwy gan Fanc Datblygu Cymru ac fe ellir eu defnyddio i ddechrau neu ehangu busnes, i brynu offer neu stoc newydd neu hyd yn oed i brynu busnes.

Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch e-bost at emily.wood@bancdatblygu.cymru i archebu slot 30 munud. Fel arall, ffoniwch hi ar 029 2033 8110.

Pwy sy'n dod

Tara Lee-Fox
Swyddog Buddsoddi