Brecwast Busnes Rhwydwaith Arloesi Cynghrair Merswy a Dyfrdwy (Mersey Dee Alliance - MDA)

Rydym yn falch o fod yn noddi Brecwast Busnes Rhwydwaith Arloesi Merswy a Dyfrdwy a gynhelir yn Nhŷ Pawb Wrecsam ar y 15fed o Chwefror. Bydd y digwyddiad yn gyfle gwych i rwydweithio gyda busnesau eraill sy'n gweithredu yn ardal Wrecsam, Sir y Fflint, Gorllewin Swydd Gaer a Chilgwri, a bydd hefyd yn cynnwys cyfres o gyflwyniadau ar gyfer y rhai sy'n mynychu i ddysgu mwy am dwf busnes ac arloesedd.

Bydd Mike Owen, Cyfarwyddwr Buddsoddi Grŵp Banc Datblygu Cymru, a Gary Guest, Rheolwr y Gronfa yn FW Capital, yn siarad ac yn cynnal gweithdy am ddim ar ôl y brecwast. Bydd aelodau eraill o'n tîm hefyd wrth law trwy gydol y digwyddiad i drafod yr ystod o gyllid sydd ar gael i fusnesau i roi hwb iddynt ddechrau neu dyfu.

Mae'r agenda ar gyfer y digwyddiad fel a ganlyn:

8.00                 Cofrestru a Chroeso

8.30                 Rhwydweithio a gweini'r brecwast

8.35                 Cyflwyniad a'r slot cyflwyniadau busnes 2 funud

9:00                 Cyfle rhwydweithio pellach

9.30                 Diwedd y Brecwast

9.35 – 10:00    Gweithdy Am Ddim wedi'i drefnu gan Fanc Datblygu Cymru ac FW Capital

 

Cliciwch yma i gofrestru eich lle am ddim.

Pwy sy'n dod

Mike-Owen
Cyfarwyddwr Buddsoddi Grŵp