Briffiau Brexit Busnes Cymru ar gyfer busnesau

Mae Busnes Cymru yn cynnal nifer o seminarau am ddim ledled Cymru a gynlluniwyd i roi'r sefyllfa ddiweddaraf i fusnesau ar Brexit.

Erbyn diwedd y sesiynau briffio, bydd gan y rhai sy'n mynychu ddealltwriaeth glir o effaith posibl Brexit a'r gefnogaeth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru (megis Busnes Cymru, Masnach ac ati) ac awdurdodau lleol.

Bydd cyfleoedd i rwydweithio, a bydd aelodau o'n timau buddsoddi rhanbarthol ar gael i drafod yr arian a'r gefnogaeth yr ydym yn ei gynnig i fusnesau yng Nghymru.

Mae'r dyddiadau a'r lleoliadau fel a ganlyn:

  • 19 Chwefror 2019 - Canolfan Arloesi Bae Baglan, Parth Menter Glannau Port Talbot - 9yb tan 11yb
  • 4 Mawrth 2019 - Maes Awyr Caerdydd a Sain Tathan - Parth Menter - 8yb tan 10yb
  • 6 Mawrth 2019 - Canolfan Arloesi'r Bont - Parth Menter Dyfrffordd Dau Gleddau - 8.15yb tan 10.15yb
  • 12 Mawrth 2019 - Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy - 8yb tan 10yb
  • 13 Mawrth 2019 - Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Y Drenewydd - 8yb tan 10yb
  • 19 Mawrth 2019 - M-SParc - Parth Menter Ynys Môn, Gaerwen - 8yb tan 10yb
  • 21 Mawrth 2019 - Canolfan Hamdden Glaslyn, Porthmadog - 8yb tan 10yb
  • 22 Mawrth 2019 - Llyfrgell Gladstone, Glannau Dyfrdwy - 8yb tan 10yb

 

Canfyddwch fwy am y sesiynau bwcio eich lle yn fan hyn.

Pwy sy'n dod