Gweler isod grynodeb byr o'n prosesau a fydd yn dibynnu ar y math o gyllid sydd ei angen arnoch.
Ein proses
Cam 1
Cwblhewch ein gwirydd cymhwyster mewn dim ond ychydig funudau.
Cam 2
Gwnewch gais ar-lein. Yna byddwn yn cysylltu â chi o fewn dau ddiwrnod gwaith i drafod y camau nesaf.
Cam 3
Unwaith y bydd gennym bopeth sydd ei angen arnom, caiff eich cais ei adolygu ac fe wneir penderfyniad.
Cam 4
Os yw'n llwyddiannus ac mae'r holl ddogfennau yn eu lle, gellir trosglwyddo arian cyllido o fewn un diwrnod gwaith.
Ein hamserlenni
Bydd yr amser mae’n gymryd i ymateb i'ch cais yn dibynnu ar y math a faint o gyllid yr ydych ei angen.
Math | Yr amser penderfynu rydym ni'n ei anelo ato |
---|---|
Benthyciad trac cyflym hyd at £25,000 | Penderfyniad o fewn dau ddiwrnod gwaith wedi i ni dderbyn yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom |
Benthyciadau hyd at £50,000 | Penderfyniad o fewn saith diwrnod gwaith wedi i ni dderbyn yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom |
Benthyciadau dros £50,000 | Penderfyniad o fewn 20 diwrnod gwaith wedi i ni dderbyn yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom |
Bargeinion ecwiti mwy, sy'n fwy cymhleth | Penderfyniad o fewn 40 diwrnod gwaith wedi i ni dderbyn yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom |
Diwydrwydd dyladwy
Rydym yn prisio ein bargeinion ni yn seiliedig ar y risg cysylltiedig. Mae hyn yn golygu ein bod yn cynnal asesiad trylwyr o'r holl geisiadau buddsoddi. Rydym yn ystyried y farchnad rydych chi'n gweithredu ynddi yn ogystal â'ch tîm rheoli. Ar gyfer bargeinion buddsoddi mwy, sy'n fwy cymhleth, efallai y byddwn yn cysylltu â darparwyr diwydrwydd dyladwy allanol.
Cymeradwyaeth
Unwaith y bydd diwydrwydd dyladwy wedi'i gwblhau a'i basio'n llwyddiannus, byddwn yn ystyried y buddsoddiad ar gyfer ei gymeradwyo. Rydym yn defnyddio proses gymeradwyo symlach sydd wedi ei theilwra i faint y buddsoddiad. Gwneir unrhyw benderfyniad buddsoddi mewn modd amserol gan benderfynwyr mewnol lleol sydd ag awdurdod dirprwyedig.
Cwblhad cyfreithiol
Byddwn yn trefnu'r holl ddogfennau cyfreithiol angenrheidiol ac yn sicrhau bod yr arian cyllido ar gael.
Ar ôl buddsoddi
Bydd un o aelodau ein tîm portffolio pwrpasol yn gweithio gyda chi i gefnogi'ch cynlluniau twf.