Caerdydd: Ydych chi’n ystyried ehangu’ch busnes?

Ydych chi’n ystyried ehangu’ch busnes? Darganfyddwch sut gallem ni ym Manc Datblygu Cymru eich helpu chi. Dewch i gwrdd â’r uwch swyddog gweithredol buddsoddi, Rhiannon Brewer yng Nghanolfan Technoleg Busnes Caerdydd yng Nghaerdydd ar 25 Ionawr. 

Dewch i siarad â Rhiannon am eich busnes a’ch cynlluniau. Gallwch hefyd siarad â chynrychiolydd o Gyngor Caerdydd i ddarganfod sut gall y Cyngor eich helpu chi.

Gall busnesau Caerdydd wneud cais am fenthyciadau o £1,000 a mwy gennym er mwyn eu defnyddio i gychwyn neu ehangu busnes, i brynu offer neu stoc newydd neu hyd yn oed i brynu busnes arall.

Os oes gennych chi ddiddordeb, anfonwch e-bost at emily.wood@developmentbank.wales i drefnu slot 30 munud. Neu ffoniwch hi ar 029 2033 8110.

Pwy sy'n dod

Rhiannon-Brewer
Dirprwy Reolwr Cronfa