Clinig Cymorth Busnes

Ydych chi'n chwilio am gyllid i gefnogi anghenion eich busnes?

Ymunwch â ni yn ein Clinig Cymorth Busnes, a gynhelir mewn partneriaeth â Busnes Cymru, Cyngor Casnewydd ac Ymddiriedolaeth y Brenin.

Fel cynrychiolwyr lleol, rydym yma i'ch helpu i sicrhau'r cyllid a'r arweiniad sydd eu hangen arnoch – p'un a ydych chi'n dechrau menter newydd neu'n ehangu busnes presennol.

Yn y sesiwn, byddwch yn gallu archwilio'r ystod lawn o gefnogaeth leol sydd ar gael. Gyda'n gilydd, gallwn eich helpu i gael mynediad at gyllid i: 

  • ddechrau neu ehangu busnes
  • prynu offer newydd
  • prynu busnes presennol

P'un a ydych chi'n gwmni newydd neu'n gwmni sefydledig, dewch i siarad â ni am eich busnes a'ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu i archebu eich slot, cysylltwch â donna.strohmeyer@bancdatblygu.cymru.

Pwy sy'n dod

Donna-Strohmeyer
Swyddog Buddsoddi