Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Cwrdd â'r Prynwr a Ffair Swyddi - Rhondda Cynon Taf

Gwahoddir busnesau ledled Rhondda Cynon Taf i ddigwyddiad Cwrdd â'r Prynwr sy'n rhad ac am ddim yn Llys Cadwyn ar y 26ain o Chwefror.

Dyma gyfle i fusnesau lleol ac aelodau o'r cyhoedd gwrdd ag arddangoswyr i drafod cyfleoedd busnes posibl, cael cyngor a chwilio am gyfleoedd cyflogaeth.

Yn y digwyddiad bydd llawer o wybodaeth ynghylch sut i ddechrau eich busnes eich hun, sut i ehangu a datblygu eich gweithlu, a'r cyllid sydd ar gael ar gyfer eich busnes.

Dewch draw at ein stondin i gwrdd â Claire Vokes a Jessica White o'n tîm micro-fenthyciadau, a chael gwybod am y cyllid hyblyg rydyn ni'n ei gynnig i fusnesau newydd a busnesau sefydledig yng Nghymru.

 

Pwy sy'n dod

Claire-Vokes
Uwch Swyddog Buddsoddi
Jessica-White
Uwch Swyddog Buddsoddi