Cymhorthfa Galw Heibio Cyllid Ariannu ar gyfer Twf - Port Talbot

Ydych chi'n chwilio am gyllid ariannu i gefnogi anghenion eich busnes?

Mae Banc Datblygu Cymru, Cyngor Nedd Port Talbot a Busnes Cymru yn cynnal cymhorthfa galw heibio 'Cyllid ariannu ar gyfer twf' o 10:00 - 15:00 ar y dyddiad a ganlyn:

Dydd Mawrth, 29 Ionawr yng Nghanolfan Fusnes Sandfields, Stad Ddiwydiannol Purcell Avenue, Port Talbot SA12 7PT

Fel cynrychiolwyr lleol rydym yn ymroddedig i sicrhau bod y busnesau rydym yn gweithio â nhw yn sicrhau'r arian sydd ei angen arnynt i helpu gyda chostau dechrau'r busnes neu i gefnogi twf.

Yn y sesiwn, canfyddwch fwy am y cymorth sydd ar gael gan y Cyngor, Busnes Cymru ac am y micro-fenthyciadau o £1,000 i £ 50,000 sydd ar gael gan Fanc Datblygu Cymru. Wrth weithio gyda'n gilydd, gallwn ddarparu arian cyllido i ddechrau neu ehangu busnes, a'ch cefnogi chi gyda chyllid er mwyn prynu offer newydd neu hyd yn oed i brynu busnes

Os ydych yn fusnes sy'n dechrau neu'n fusnes sy'n bodoli'n barod, dewch i siarad â ni am eich busnes a'ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

E-bostiwch emily.wood@developmentbank.wales i archebu slot 30 munud os gwelwch yn dda.

Neu fel arall gallwch roi galwad iddi ar 02920 338110.

Pwy sy'n dod

David-Knight
Swyddog Buddsoddi