Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Cymhorthfa galw heibio Sesiwn Ariannu

Ydych chi’n chwilio am gyllid i gefnogi anghenion eich busnes?

Mae Banc Datblygu Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin yn cynnal cymhorthfa galw heibio ‘Sesiwn ariannu’ rhwng 10pm a 3pm ar y dyddiadau canlynol:

Dydd Mawrth 20fed Tachwedd yng Nghanolfan Menter y Goleudy, Dafen, Llanelli SA14 8LQ 

Fel cynrychiolwyr lleol, maent yn ymroddedig i sicrhau bod y busnesau rydym yn gweithio gyda nhw yn sicrhau’r cyllid maent ei angen i helpu gyda chostau cychwyn neu i gefnogi twf

Yn y sesiwn, cewch ddysgu mwy am y cymorth sydd ar gael gan y Cyngor a’r micro-fenthyciadau o £1,000 i £50,000 sydd ar gael gan Fanc Datblygu Cymru. Gan weithio gyda’n gilydd, medrwn ddarparu cyllid i gychwyn neu ehangu busnes, gan eich cefnogi chi gyda chyllid er mwyn prynu offer newydd neu hyd yn oed i brynu busnes.

Os ydych yn fusnes newydd neu’n fusnes presennol, dewch i siarad gyda ni am eich busnes a’ch cynlluniau at y dyfodol.

Ebostiwch emily.wood@developmentbank.co.uk i drefnu sesiwn 30 munud neu fel arall medrwch ei ffonio ar 02920 338110.

Pwy sy'n dod

David-Knight
Swyddog Buddsoddi