‘Cymhorthfa galw heibio 'Tyfu Eich Busnes'

Gan weithio mewn partneriaeth â Busnes Cymru a Chyngor Sir Fynwy, bydd Banc Datblygu Cymru yn cynnal cymhorthfa galw heibio 'Tyfu Eich Busnes' rhad ac am ddim ar gyfer entrepreneuriaid a pherchenogion busnes yn Sir Fynwy.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, Aelod o'r Cabinet dros Fenter Cyngor Sir Fynwy am y digwyddiad: "Rydym yn awyddus i gefnogi a hybu twf a chreu swyddi. Rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu argymell y gweithdai defnyddiol hyn i unrhyw un sy'n gobeithio rhoi hwb i'w busnes eu hunain."

Bydd ein Swyddog Buddsoddi Micro-fenthyciadau Tara Lee-Fox wrth law i drafod eich cynlluniau busnes ac i siarad â chi ynghylch yr ystod o arian cyllido sydd ar gael i'ch helpu i ddechrau neu dyfu eich busnes.

Mae slotiau apwyntiad 30 munud ar gael ar sail un-i-un rhwng 09:00yp a 17:00yp. Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch e-bost at Tara.Lee-Fox@developmentbank.wales i archebu slot 30 munud erbyn dydd Llun 14 Ionawr.

Pwy sy'n dod

Tara Lee-Fox
Swyddog Buddsoddi