Cymorth i Brynu - Cymru – trinydd achos

Rydyn ni'n bwriadu recriwtio Cymorth i Brynu - Cymru - trinydd achos a fydd yn seiliedig yn Wrecsam neu yn Nghaerdydd. Cyflog £19,000 - £22,000.

Pwrpas y swydd

Sicrhau bod y lefel uchaf o gefnogaeth achos a chefnogaeth weinyddol ar gyfer pob agwedd ar weithgaredd Cymorth i Brynu - Cymru (“CiBC”) yn cael ei gynnal yn effeithlon ac yn broffesiynol.

Darparu cefnogaeth weithredol arbenigol wrth ddarparu datblygiad parhaus CiBC a swyddogaethau o ddydd i ddydd.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

Gan weithio i dîm CiBC, bydd gofyn i chi fod yn drinydd achosion  effeithiol a darparu cefnogaeth gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Fel aelod rhagweithiol o'r adran, bydd disgwyl i chi drin a rheoli nifer fawr o achosion ar yr un pryd i sicrhau bod yr holl Gytundebau Lefel Gwasanaeth (CLGau) rheoliadol a mewnol yn cael eu diwallu a bod cwsmeriaid yn cael eu hysbysu trwy amrywiol sianeli cyfathrebu.
  • Bod yn gyfrifol am drin achosion ceisiadau manwl iawn prynwyr newydd a phresennol o adeg derbyn y cais yn y lle cyntaf hyd at y cyfnewidiad cyfreithiol a chwblhau'r benthyciad ecwiti a rennir.
  • Yn benodol, byddwch yn darparu lefel uchel o wasanaeth i gwsmeriaid a chefnogaeth i brynwyr trwy adeiladu perthnasoedd gyda Chynghorwyr Ariannol Annibynnol (CAA) a Thrawsgludwyr i sicrhau bod profiad y prynwr o brynu eu  heiddo yn ddi-dor.
  • Bod yn gyfrifol am wirio'r ddogfennaeth gyfreithiol ofynnol i gefnogi'r cyfnewid cyfreithiol a chwblhau pryniant o'r eiddo. Bydd yn cynnwys - adolygu cynigion morgais a dderbynnir i sicrhau bod y cynnyrch a gynigir yn cyd-fynd â meini prawf y cynllun ar gyfer CiBC. Sicrhau fod y prisiadau a dderbynnir yn adlewyrchu'r eiddo y gwnaed cais amdano a bod yr adeiladwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun yn cadw at y telerau cywir.
  • Cynnal gwiriadau ar geisiadau yn gywir, gyda llygad craff am fanylion, er mwyn gwneud asesiad ac ymateb yn ffurfiol i gleientiaid, gan ofyn am wybodaeth bellach os oes angen.
  • Deall ac asesu adroddiadau credyd ar ôl derbyn a chofrestru ceisiadau i ddechrau a gwirio dogfennau craidd sy'n ymwneud â chyflogaeth / hunangyflogaeth a slipiau cyflog.
  • Cadw at yr holl amseroedd ymateb DPA / CLG wrth brosesu derbyn dogfennau trawsgludo cyfreithiol ar gyfer eich achosion, fel nodwyd ac y cytunwyd â Llywodraeth Cymru ac fel y'u cynhwysir yn y cytundeb rheoli cronfa.
  • Bod yn ymwybodol o reoleiddiadau GDPR, arsylwi a gweithredu'r holl ganllawiau a chymryd perhcnogaeth dros unrhyw gwynion sy'n sensitif i GDPR er mwyn eu datrys yn foddhaol.
  • Bod yn atebol yn rhagweithiol a rheoli llwyth achosion unigol cyfredol i sicrhau bod yr holl ddogfennaeth ofynnol yn cael ei dilyn yn unol â dyddiadau cwblhau hysbys y prynwyr.
  • Cysylltu'n rhagweithiol ag adeiladwyr sydd wedi'u cofrestru ar y cynllun i sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw'n drylwyr ar gyfer achosion nad ydynt yn cymryd rhan mwyach, ochr yn ochr â ffigurau rhagolwg diwygiedig yn unol â’r rhagolygon adeiladu.
  • Chwarae rôl allweddol wrth adolygu a datblygu prosesau cyfredol.
  • Sicrhau bod y meysydd gwybodaeth gofynnol yn cael eu cynnal a'u cwblhau, wrth ddefnyddio adroddiadau unigol yn rhagweithiol, i sicrhau bod yr holl feysydd gorfodol wedi'u diweddaru.
  • Arddangos ymwybyddiaeth lawn a monitro statws cyfredol eich achosion byw a’r rhai yn yr arfaeth yn rhagweithiol trwy gynhyrchu adroddiadau trylwyr a diweddaru cofnodion yn unol â hynny er mwyn sicrhau bod lefelau cywirdeb yn cael eu cynnal ar y system rheoli cofnodion cleientiaid, gan adrodd yn ôl i'r arweinydd tîm / rheolwr gydag unrhyw faterion.
  • Darparu gwasanaeth cywir, cwrtais, brwdfrydig a phroffesiynol i'r holl randdeiliaid allanol a mewnol ac ymateb yn unol â hynny i'r holl ymholiadau a dderbynnir trwy'r wefan, e-bost a ffôn.
  • Byddwch yn cadw cofnodion statws ymgeisydd ar y system CRM yn gyfredol fel y gall cydweithwyr godi achosion os oes angen.
  • Unrhyw dasg arall a ddiffinnir gan reolwr y gronfa i ddiwallu anghenion gweithredol yr adran.

Gwybodaeth, sgiliau, galluoedd a phrofiad

Hanfodol

  • Y gallu i weithio'n dda o dan bwysau i gyrraedd targedau a therfynau amser tynn
  • Profiad o ateb ac ymdrin ag ymholiadau ffôn
  • Cywirdeb rhagorol a sylw uchel i fanylion
  • Cynnal moeseg waith broffesiynol bob amser
  • Rhaid i chi fod yn drefnus ac yn gallu rheoli eich llwyth gwaith eich hun yn effeithiol
  • Profiad gweinyddol blaenorol - Hanfodol
  • Wedi ymrwymo i gymryd agwedd ragweithiol wrth gymryd perchnogaeth o’ch datblygiad chi eich hunan
  • Yn gallu arddangos dull hyderus ar y ffôn a darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar a rhyngbersonol cryf
  • Yn llawn cymhelliant gyda'r gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • Hyderus yn eich gallu chi eich hun i wneud penderfyniadau
  • Wedi'ch addysgu i safon dda o addysg gyffredinol - TGAU, NVQ Lefel 2/3 neu safon gyfatebol
  • Yn brofiadol ac yn fedrus mewn cymwysiadau TG / PC safonol gan gynnwys Word, Excel, PowerPoint, Outlook.
  • Gwybodaeth / profiad o brosesu ceisiadau am forgeisiau a benthyciadau ecwiti a rennir

Dymunol

  • Siaradwr Cymraeg
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r fenter Cymorth i Brynu - Cymru
  • Profiad blaenorol mewn sefyllfa trin achosion
  • Profiad o ddadansoddi gwybodaeth ariannol i gynnwys slipiau cyflog a chyfrifon diwedd blwyddyn.

I wneud cais anfonwch eich ffurflen gais at: recriwtio@bancdatblygu.cymru

Ffurflen gais

Dyddiad cau 11 Medi.