Cynghorydd Benthyciadau Bychain

Rydym yn cyflogi Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol, Swyddog Buddsoddi ac Uwch Swyddog Buddsoddi wedi’i leoli yng Nghymru

Ydych chi’n weithiwr cyllid proffesiynol sydd â phrofiad o fuddsoddi neu fenthyca?

Neu, ydych chi’n unigolyn sy’n awyddus i ddatblygu eich gyrfa ym maes cyllid a buddsoddi?

Mae’n bosibl mai ni yw’r union beth rydych chi’n chwilio amdano!

Mae gennym ni gyfleoedd i unigolion ymuno â'n tîm Micro-fenthyciadau; p’un a oes gennych chi brofiad mewn swydd debyg, neu’ch bod yn awyddus i barhau â'ch gyrfa ariannol, mae gennym ni’r swydd berffaith ar eich cyfer chi! Rydym yn chwilio am y canlynol (a elwir yn fewnol yn):

Byddwch chi’n gyfrifol am ganfod a gwerthuso cynigion buddsoddi, a fydd heb eu diogelu gan amlaf, felly byddwn ni’n darparu hyfforddiant llawn i sicrhau bod gennych chi’r holl wybodaeth angenrheidiol i gysylltu â busnesau bach a chanolig ledled Cymru. Gan fod gennym ni swyddfeydd yng Nghaerdydd, Wrecsam, Llandudno, Llanelli a’r Drenewydd, gallwch chi fod yn gweithio yn unrhyw le yng Nghymru – cyn belled â’ch bod yn hyblyg o ran teithio ac yn mynd i’ch swyddfa leol yn rheolaidd (dwywaith yr wythnos)

Gan weithio yn ôl targedau y cytunwyd arnynt, byddwch chi’n gallu cyflawni canlyniadau a dangos sgiliau negodi a rhwydweithio allweddol wrth i chi ddatblygu perthynas waith gref gyda chyfryngwyr a darparwyr busnes. Byddwch chi’n ffynnu mewn amgylchedd datblygu busnes ac yn teimlo’n gyfforddus wrth gyflwyno i gynulleidfaoedd bach a mawr. Byddwch chi hefyd yn defnyddio eich rhwydwaith i hyrwyddo ein benthyciadau busnes i gwmnïau o fewn eich tiriogaeth benodol chi.

Gan ddefnyddio dull trylwyr o weithio, byddwch chi’n paratoi adroddiadau buddsoddi manwl, gan sicrhau arfer gorau a chydymffurfiaeth o fewn yr holl weithgareddau buddsoddi. Byddwch chi’n cyfrannu at weithredu’r Banc Datblygu fel cwmni rheoli cronfeydd proffesiynol a darparwr cyfalaf risg i fusnesau newydd a busnesau sy’n bodoli eisoes. Byddwch chi hefyd yn gweithredu o dan derfynau awdurdod dirprwyedig a Chanllawiau Gweithredol Buddsoddi mewn amgylchedd sy’n cael ei reoleiddio.   

Does dim rhaid i chi fod â blynyddoedd o brofiad o fuddsoddi a benthyca; does dim rhaid i chi fod yn gwbl gyfarwydd â’n byd. P’un a oes gennych chi brofiad o gynnal dadansoddiadau ariannol, neu eich bod ar ddechrau eich gyrfa, byddwch chi’n barod i ddechrau ar yrfa werth chweil. Cewch gefnogaeth ac arweiniad llawn i ddysgu sgiliau newydd a dod i ddeall prosesau buddsoddi ac asesu risg, neu i ddatblygu eich gwybodaeth gyfredol.

Rydym yn chwilio am rywun sy’n gyfathrebwr cryf, yn hyderus wrth wneud penderfyniadau, ac sy’n rhoi sylw trylwyr i fanylion.   

Os yw hyn yn swnio fel chi, byddem wrth ein bodd yn cwrdd â chi. A byddem yn falch iawn o allu helpu eich gyrfa i fynd o nerth i nerth!

Ymgeisiwch

I ymgeisio am unrhyw swyddi gwag sydd gennym, ewch i Recriwtio.bancdatbygu.cymru