Cynorthwy-ydd caffael

Rydyn ni am recriwtio cynorthwy-ydd caffael ar gontract tymor penodol o 12 mis a fydd yn seiliedig yn Wrecsam neu yn Nghaerdydd. Cyflog cychwynnol o £24,000

Pwrpas y swydd

Fel sefydliad sector cyhoeddus mae Banc Datblygu Cymru (BDC) yn cymryd gweithgarwch caffael o ddifri ac mae'n sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r rheoliadau caffael perthnasol a'r arferion gorau. Ystyrir fod dyfarnu contractau cost-effeithiol yn brydlon i gontractwyr, cyflenwyr a darparwyr gwasanaethau cymwys ar gyfer darparu nwyddau a gwasanaethau i BDC yn bwysig iawn.

Bydd y Cynorthwy-ydd Caffael yn darparu cefnogaeth i'r Tîm Cydymffurfiaeth gyda rheoli caffael a rheoli gwasanaethau contract ar draws Banc Datblygu Cymru. Bydd hyn yn cynnwys;

  • Gweinyddu pob gweithgaredd caffael ac ymholiadau caffael
  • Datblygu Polisi, Gweithdrefn a chanllawiau caffael ymhellach
  • Cynnal cronfa ddata o gontractau canolog

Bydd y rôl yn gyfle i ddatblygu sgiliau a phrofiad ar draws gwahanol lefelau caffael gan gynnwys dod i gysylltiad â phroses Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU). Bydd hefyd yn gyfle i ddatblygu gwybodaeth ymarferol a phrofiad gwerthfawr am BDC, gan weithio mewn tîm cydymffurfiaeth prysur sy'n cwmpasu ystod eang o weithgareddau ansawdd a chydymffurfiaeth ar draws y sefydliad.

 

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

  • Cyfrifoldeb am weinyddu pob prosiect caffael gan gynnwys rheoli terfynau amser a chysylltu â thimau ar draws BDC
  • Cynorthwyo gydag adeiladu tendrau ar systemau eGaffael
  • Cydlynu cwestiynau sy'n holi am eglurhad gan gyflenwyr a chydlynu ymatebion gan dimau prosiect
  • Rheoli dyddiadur ar gyfer pob cam caffael
  • Cynorthwyo gyda chyngor, cefnogaeth a rheoli tendrau islaw'r trothwy
  • Ffeilio dogfennau allweddol ar gyfer prif ffeiliau caffael
  • Cynorthwyo i sicrhau bod rhestrau gwirio caffael ar gyfer pob tendr yn cael eu cwblhau
  • Cynnal y gofrestr tendr sengl
  • Codi Gorchmynion Prynu ar gyfer caffael cyngor cyfreithiol
  • Rheoli pob ymholiad a negeseuon e-bost sy'n gysylltiedig â chaffael
  • Darparu cyngor a chymorth caffael o ansawdd uchel ar draws y busnes i sicrhau bod cymorth a chyngor ar gael yn ôl yr angen
  • Cefnogi gyda'r gwaith o ddatblygu polisi a gweithdrefnau caffael presennol a nodiadau cyfarwyddyd ymarferol
  • Cynorthwyo gydag ymchwil i faes caffael sector cyhoeddus i sicrhau bod Polisi a Chaffael BDC yn parhau i fod yn addas ar gyfer y pwrpas
  • Cefnogi gyda'r gwaith o ddatblygu a chyflwyno deunydd a chanllawiau hyfforddi priodol i wella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o weithgarwch caffael ar draws BDC
  • Cefnogi'r gwaith o ddatblygu a chynnal cofrestr contractau canolog ac anfon nodiadau atgoffa at reolwyr prosiect cyn y bydd contractau yn dod i ben
  • Gweithio gyda'r tîm Cyllid i sicrhau trywydd archwilio clir rhwng y gorchmynion prynu a godwyd a gweithgarwch caffael
  • Gweithredu rhaglen adolygu i fonitro cydymffurfiaeth weithredol
  • Unrhyw dasg arall a all gael ei diffinio gan y Rheolwr Gwasanaethau Busnes i ddiwallu anghenion gweithredol yr adran

Gwybodaeth, sgiliau, galluoedd a phrofiad

Hanfodol

  • Cymryd perchenogaeth dros dasgau a phrosiectau o'r camau cychwynnol hyd at eu cwblhau
  • Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig cryf
  • Y gallu a'r awydd i ddysgu a datblygu'n gyflym
  • Yn meddu ar yr awydd ac ymagwedd benderfynol tuag at gwblhau gwaith i safon uchel
  • Sgiliau trefnu da
  • Y gallu i gynllunio a rheoli amser yn effeithiol
  • Sylw craff am fanylion
  • Yn meddu ar sgiliau TG ac yn gallu defnyddio Pecynnau Microsoft Office

Dymunol

  • Ymwybyddiaeth neu wybodaeth ymarferol o gaffael yn y sector gyhoeddus
  • Amlygiad i systemau e-Gaffael
  • Sgiliau cyflwyno da a'r gallu i gyflwyno deunydd hyfforddi
  • Y gallu i adolygu a diweddaru polisi a dogfennau gweithdrefnol
  • Y gallu i ddefnyddio ystod o dechnegau ymchwil i gasglu gwybodaeth berthnasol
  • Cynnig sesiynau briffio a chyngor yn dilyn ymchwil

Nid ydym yn edrych yn benodol am brofiad caffael ar gyfer y rôl hon ond yn hytrach am rywun sydd â dull strwythuredig o reoli gwaith prosiect. Mae angen i'r unigolyn fod yn rhifog ac yn gallu rhoi sylw da i fanylion. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â chefndir ariannol neu gyfreithiol. 

I wneud cais anfonwch eich ffurflen gais at: recriwtio@bancdatblygu.cymru

Ffurflen gais