Digwyddiad dros dro Mis Mawrth Menter - Sesiwn 2

Mae’r digwyddiad galw heibio hwn yn ymwneud â chefnogi busnesau a’u helpu i dyfu. Byddwn ni a Busnes Cymru yno i roi cymorth i unrhyw un sydd ei eisiau. Gall hyn gynnwys cymorth ar gyfer amrywiaeth eang o bynciau, er enghraifft rhywun sy’n ystyried dechrau ei fusnes ei hun neu roi cyngor ynghylch anawsterau ariannol. Mae croeso i chi gwrdd â’n Swyddog Buddsoddi Micro, James Ryan, a fydd yn fodlon ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.

Mae’r digwyddiad yn addas ar gyfer busnesau newydd, busnesau sy’n bodoli eisoes a’r rheini sy’n ystyried dechrau busnes. Mae’n dechrau am hanner dydd ac mae’n gorffen am 2pm heb unrhyw gost i fod yn bresennol. Does dim angen archebu hefyd. Gallwch ddod draw a siarad â darparwr cymorth am eich syniad busnes neu eich anghenion busnes. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar eu gwefan yma.

Pwy sy'n dod