Digwyddiad Rhwydweithio mewn Busnes

Rydym yn cynnal Digwyddiad Rhwydweithio Menywod mewn Busnes ar 28 Ionawr ym Mhenarlâg mewn partneriaeth â Busnes Cymru a Cymraeg Byd Busnes.

Dewch i’r digwyddiad hwn, sy’n rhad ac am ddim, i gwrdd a rhwydweithio â menywod o’r un meddylfryd â chi ac i ddysgu am gymorth busnes lleol.

Bydd Catherine Howell, uwch swyddog buddsoddi ein tîm microfenthyciadau, wrth law i drafod y benthyciadau o £1,000 i £50,000 yr ydym yn eu cynnig i unig fasnachwyr a busnesau i’w cynorthwyo i ddechrau eu busnes a thyfu.

Cynhelir sgwrs hefyd ar ‘Farchnata eich busnes’, wedi’i harwain gan Llior Radford o SeventyTwentyTen. Darperir lluniaeth a bwyd ysgafn.

Archebwch eich lle cyn 23 Ionawr drwy fynd i tocyn.cymru neu e-bostio ffion.whitham@cymraegbusnes.cymru.

Pwy sy'n dod