Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn Dathlu Gwobrau Busnesau Bach 2023

Mae Gwobrau’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn dathlu llwyddiannau a natur unigryw busnesau bach eithriadol ledled y DU, gyda’r digwyddiad arbennig hwn yn dathlu Cymru. Mae’r diwrnod ei hun yn ymwneud ag arddangos y cwmnïau diddorol o wahanol gymunedau a rhwydweithio â busnesau llwyddiannus eraill sydd â llai na 250 o weithwyr. Mae 12 o wobrau i’w hennill yn y digwyddiad, gan gynnwys Gwobr Rhagoriaeth Gwasanaeth ac Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn. Mae Banc Datblygu Cymru yn falch o noddi’r gwobrau hyn unwaith eto. Eleni, rydyn ni wedi dewis noddi’r wobr Cynaliadwyedd ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld pa fusnes fydd yn ei hennill.

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gyflwyno gan un o wynebau ITV News, sef Andrea Byrne. Mae hi’n cyflwyno bwletinau cenedlaethol ITV yn ogystal â Wales at Six, rhaglen newyddion bob dydd sydd wedi ennill gwobr BAFTA. Yn ystod ei gyrfa, mae Byrne wedi cyfweld llawer o enwau uchel eu proffil, gan gynnwys David Cameron a’r Tywysog Harry hyd yn oed. Er ei bod wedi hen ennill ei phlwyf yn ei maes, mae Byrne hefyd wedi llwyddo i ddod yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar gyfer Hoci Cymru, yn llysgennad ar ran Cynllun Gwobr Dug Caeredin, yn ymddiriedolwr ar ran yr elusen rhoi organau, Believe, ac mae ganddi ei phodlediad ei hun hyd yn oed, o’r enw ‘Making Babies’. Ac ar ben hynny, mae hi hefyd wedi priodi Lee Byrne, un o arwyr Cymru a'r Llewod.

Pwy sy'n dod