Grantiau busnes yng Nghymru

Gellir cyfuno ein benthyciadau hyblyg â grantiau i roi'r pecyn ariannu cyflawn sydd ei angen arnoch. Darllenwch ein canllaw ar ddod o hyd i ddarparwr grant yng Nghymru.

Beth yw grant busnes?

Mae grant yn swm o arian nad oes angen ei ad-dalu a fyddai'n cael ei ddyfarnu i'ch busnes, yn aml at ddiben neu brosiect penodol yn hytrach nac i ariannu gweithgareddau busnes cyffredinol.

Er bod cannoedd o gynlluniau grant ar gael, mae nifer ohonynt yn cynnwys set o feini prawf y mae angen i chi eu bodloni er mwyn bod yn gymwys. Gall hyn gynnwys:

  • Maint y Busnes. Efallai y bydd grant ar agor i fusnesau sydd â llai na 250 o weithwyr (y rhai sy'n cael eu dosbarthu fel busnesau bach a chanolig), neu lai. 
  • Diwydiant. Mae nifer o grantiau yn benodol i sector.
  • At ddiben Busnes. Fel arfer mae gan gynllun grant amcan clir, felly bydd yn cael ei roi i fusnesau sy'n gallu cyflawni hyn trwy fynd i'r afael â mater penodol neu gael rhyw effaith penodol.
  • Lleoliad. Mae grantiau rhanbarthol ar gael sy'n ceisio cefnogi twf economaidd a chreu swyddi yn yr ardal.
  • Pa mor hir rydych chi wedi bod yn gweithredu. Efallai y bydd rhai grantiau ddim ond yn cael eu dyfarnu i fusnesau mwy sefydledig sydd wedi bod yn gweithredu ers rhai blynyddoedd, tra bydd eraill yn cael eu canolbwyntio ar gwmnïau / busnesau sy'n dechrau o'r newydd.

Dod o hyd i grant busnes

Caiff grantiau eu dyfarnu gan amrywiaeth o ddarparwyr, a gallant fod yn lleol, cenedlaethol neu Ewropeaidd o ran cwmpas. Y prif ddarparwyr yng Nghymru yw Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, yr UE, awdurdodau lleol ac elusennau. Er nad yw Banc Datblygu Cymru yn cynnig grantiau busnes, rydym yn cynnig ystod eang o fenthyciadau hyblyg y gellir eu cyfuno â grantiau pe bai angen y ddau arnoch.

Mae'r lleolydd cyllid ar wefan Busnes Cymru yn fan cychwyn gwych i edrych ar y grantiau a'r mathau eraill o gyllid sydd ar gael yng Nghymru, gan eich galluogi i hidlo a didoli'ch canlyniadau yn ôl math o arian, ffynhonnell, ardal ddaearyddol, statws cais, ac ati, gweler yr opsiynau mwyaf perthnasol ar gyfer eich busnes chi.

 

Sut i gael grant 

Pan fyddwch wedi dod o hyd i grant y credwch eich bod chi'n gymwys ar ei gyfer ac sy'n diwallu anghenion eich busnes, yna gallwch ddechrau sicrhau bod gennych yr hyn y mae angen arnoch er mwyn gwneud cais wrth law. Bydd y broses ymgeisio'n amrywio ar gyfer pob cynllun grant, ond dyma'r hyn fydd ei angen i chi ei sicrhau yn gyffredinol cyn i chi ddechrau:

• Bod gennych syniad clir o sut y byddwch yn defnyddio'r arian ac yn cwrdd ag amcanion ac amodau'r grant

• Bod gennych gynllun busnes trylwyr sydd wedi cael ei ddiweddaru

• Eich bod yn gallu darparu arian i gyd-fynd â'r grant petai angen (arian cyfatebol)

 

Arian cyfatebol

Fel rheol, mae grantiau'n cynnwys rhan o gyfanswm costau prosiect fel arfer, ac yn aml yn cynnwys gofyniad am arian cyfatebol, sy'n golygu y bydd angen i chi naill ai ddefnyddio rhywfaint o'ch arian eich hun neu godi cyllid allanol. Rydym yn darparu benthyciadau hyblyg y gellir eu cyfuno â grantiau i roi'r pecyn cyllid cyflawn rydych chi ei angen. 

Am arweiniad pellach ar grantiau a sut i wneud cais, ewch i weld gwefan Busnes Cymru

Os ydych chi'n chwilio am gyllid allanol ar gyfer arian cyfatebol, neu os oes gennych ddiddordeb mewn edrych ar opsiynau amgen ar gyfer grantiau, edrychwch ar yr amrediad o gyllid a gynigiwn i fusnesau yng Nghymru.