Hanfodion Ecwiti

Mae cael y cyllid cywir yn allweddol i dwf llwyddiannus. Mae buddsoddiad ecwiti yn un opsiwn cyllid y gallwch ei ddefnyddio i gyflymu'ch cynlluniau twf. Yn ôl ymchwil gan Beauhurst ar gynyddu graddfa busnes yn 2017, fe wnaeth cwmnïau a ddefnyddiodd gyllid ecwiti gynyddu eu trosiant ar gyfradd gynyddol. A'r mwyaf o fuddsoddiad ecwiti a gafwyd, cyflyma yn y byd yr oeddent yn tyfu.

Ond sut wyt ti'n gwybod pryd mae'ch busnes yn barod i chwilio am ecwiti twf?

Dewch i'n cyflwyniad addysgiadol yn ein digwyddiad brecwast Ecwiti ym mis Tachwedd i glywed sut y gallai arian ecwiti roi hwb i'ch busnes.

Bydd trafodaeth banel rhyngweithiol lle cewch gyfle i glywed yn uniongyrchol gan gwmnïau sydd wedi codi arian ecwiti a'r buddsoddwyr a'u cefnogodd.

 

8:00am brecwast a rhwydweithio

8.30am - 9.30am trafodaeth panel

10:00am rhwydweithio a chau

 

AOGyDd: I gadw lle, e-bostiwch emily.wood@developmentbank.wales (rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion dietegol).

Pwy sy'n dod

Leanna-Davies
Rheolwr Datblygu Portffolio