5 awgrym ar gyfer rheoli tîm o bell

Portrait of Sophie Vellam
Swyddog Ymgyrchoedd
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes
COVID-19
remote worker on video call

Yn ôl yr ONS, ym mis Chwefror 2022, roedd mwy nag wyth o bob 10 gweithiwr a oedd yn gweithio o gartref yn ystod y pandemig yn dweud eu bod yn bwriadu gweithio’n hybrid. Ers hynny, mae nifer y gweithwyr hybrid wedi codi o 13% i 24% mewn tri mis. Yn gyffredinol, mae’r nifer sy’n gweithio o gartref yn unig wedi gostwng o tua 22% o weithwyr i tua 14%. Mae holl strwythur busnesau wedi newid i hwyluso hyn, gyda llawer yn cael problemau ar hyd y ffordd.

Ond mae'r sefyllfa hon hefyd wedi profi bod gweithio gartref ar y raddfa hon wir yn bosibl. Ac, os caiff ei wneud yn iawn, mae gan hyn y potensial hyd yn oed i gynyddu cymhelliant a chynhyrchedd staff. Dyma rai awgrymiadau i'ch helpu chi i reoli'ch tîm a'u galluogi i weithio'n effeithiol gartref yn ystod yr adeg hon wrth symud ymlaen.

1. Cadwch gysylltiad

Gofynnwch i unrhyw un ynghylch y manteision o weithio mewn swyddfa ac mae'n debyg y byddai rhyngweithio wyneb yn wyneb ar ben eu rhestr. Mae'r gallu i droi yn gyflym at gydweithiwr i wirio rhywbeth neu gael sgwrs sydyn yn rhywbeth y mae'ch tîm yn debygol o'i golli. Mae hyn yn arbennig o wir nawr gan fod ein rhyngweithio wyneb yn wyneb yn gyfyngedig i'r rhai rydyn ni'n byw â nhw.

Yn ffodus, gall technoleg eich helpu chi a'ch tîm i deimlo'n fwy cysylltiedig a chydweithio yn fwy effeithlon. Mae yna nifer o offer ar gael sy'n cynnig negeseua ar wib, galwadau fideo a rhannu sgrin, fel ‘Skype for Business’ neu ‘Microsoft Teams’. Efallai y byddai'n fuddiol cael sesiynau cadw cyswllt bob dydd hefo'ch tîm. Bydd gweld wynebau eich gilydd ar y sgrin yn rheolaidd yn helpu i gynnal perthynas ac yn caniatáu i chi fesur yn well sut mae pawb yn teimlo.

Dylech hefyd ystyried defnyddio meddalwedd ar gyfer cydweithredu a rheoli tasgau. Gall defnyddio teclyn fel hwn wneud cyfathrebu ar brosiectau grŵp yn llawer symlach a helpu'r tîm i ganolbwyntio ar wneud cynnydd tuag at gyflawni nodau ar y cyd.

Er bod yna lawer o opsiynau gwych i wella eich cysylltedd gartref, byddwch yn wyliadwrus rhag defnyddio gormod ohonynt. Gallai hyn arwain at ddryswch, straen a negeseuon pwysig yn cael eu colli, a dyna'n union beth rydych chi'n ceisio ei osgoi. Ceisiwch gyfyngu nifer y llwyfannau / platfformau i'r rhai sydd wir eu hangen arnoch er mwyn sicrhau fod pawb yn gwybod sut i'w defnyddio'n iawn. Efallai llunio canllaw syml i'ch gweithwyr yn amlinellu pa ddulliau cyfathrebu y dylid eu defnyddio at ba bwrpas yn helpu.

2. Gosodwch nodau a disgwyliadau clir

Pan fydd eich tîm yn gweithio o bell, mae'n bwysicach nag erioed sefydlu nodau clir. Dylai nodau fod yn rhai CAMPUS - cyraeddadwy, amserol, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol, synhwyrol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn pennu nodau eich cyflogeion fel hyn i sicrhau eu bod ar y trywydd iawn.

Gall helpu i rannu nodau mawr yn dasgau llai i'w gwneud yn fwy hylaw i weithwyr – ac o ganlyniad gall hynny roi gwell darlun i chi mewn perthynas â'u cynnydd. Dylech hefyd drefnu cyfarfodydd adolygu / gwerthuso rheolaidd i weld a ydyn nhw ar y trywydd iawn a thrafod unrhyw faterion y gallan nhw fod yn ceisio ymdopi â nhw.

3. Dylech ymddiried yn eich tîm

Gan nad oes gennych bellach y gallu i weld beth mae'ch gweithwyr yn ei wneud trwy gydol y dydd, efallai y cewch eich temtio i ficro reoli neu wirio be' sy'n digwydd hefo nhw yn rhy aml. Ond dylech geisio peidio â chael eich temtio i ildio i'r ysfa hon ac ymddiried yn eich tîm, oni bai eu bod yn rhoi rheswm i chi beidio. Ni fydd gweithio o bell byth yn gweithio'n llwyddiannus fel arall. Wedi dweud hynny, ni ddylech ychwaith golli golwg ar yr hyn y maent yn gweithio arno a sut olwg sydd ar eu diwrnod gwaith nhw.

Bydd gosod nodau a chyfathrebu, fel y soniwyd uchod, yn allweddol i gyflawni'r cydbwysedd hwn. Gydag amcanion a metrigau perfformiad sydd wedi'u diffinio'n glir, dylai fod yn amlwg pan nad yw rhywun yn gweithio'n gynhyrchiol. Canolbwyntiwch ar allbwn yn hytrach nag ar yr amser y mae eich gweithwyr yn ei dreulio yn eistedd wrth eu desgiau. Cyn belled â'u bod yn cwblhau eu tasgau yn brydlon ac i safon dda, a'u bod yn cyfathrebu'n dda, yna ni ddylai fod yn rhaid i chi boeni. Os ydych yn defnyddio meddalwedd rheoli tasgau, gallwch hefyd weld llwythi gwaith aelodau eich tîm yn gyflym a gwirio eu cynnydd yno.

Un o'r ffyrdd gorau o adeiladu ymddiriedaeth yn raddol yw datblygu a chynnal cysylltiad da ag aelodau'ch tîm. Cymerwch ran mewn ychydig o sgyrsiau cymdeithasol o bryd i'w gilydd a dod i adnabod eich cydweithwyr yn well.

4. Darparwch gefnogaeth a chadw ysbryd pobl

Yn amlwg nid yw'r rhain yn amgylchiadau cyffredin, ac rydym nid yn unig yn gorfod addasu i'r heriau a gyflwynir trwy weithio gartref yn llawn amser, ond hefyd effaith seicolegol yr adegau hyn fel y mae hi ar hyn o bryd. Gall pryder effeithio ar y gallu i weithio'n gynhyrchiol felly mae'n bwysig bod yn amyneddgar ac yn empathetig.

Gwnewch ymdrech ychwanegol i gysylltu ag aelodau'ch tîm, yn enwedig os ydych chi'n gwybod eu bod nhw'n byw ar eu pennau eu hunain. Gall dim ond neges gyflym yn gofyn sut maen nhw wneud gwahaniaeth. Mae trefnu gweithgareddau cymdeithasol hefyd yn ffordd dda o gadw ysbryd tîm a lleddfu unigrwydd. Ceisiwch gael cinio rhithwir neu egwyl goffi gyda'ch gilydd neu gael cwis dros alwad fideo.

Mae llawer o arweinwyr yn poeni efallai na fydd gweithwyr yn gweithio digon pan fyddant gartref, ond mae'r gwrthwyneb yn aml yn wir gyda gweithio o bell. Yn absenoldeb strwythur y diwrnod gwaith arferol, a'r llinellau rhwng ein bywydau personol a gwaith yn mynd yn aneglur, gall pobl barhau i weithio gyda'r nos a thros y penwythnosau. Gall hyn arwain at or-flinder gwirioneddol.

Er mwyn helpu i atal hyn, dylech gadw llygad am arwyddion bod gweithwyr o dan straen neu'n gorweithio. Dylech hefyd annog cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, gan gynnwys cymryd seibiannau, rhoi'r gorau i ganolbwyntio ar waith ar ddiwedd y dydd yn gyfan gwbl, a mynd allan i wneud ymarfer corff bob dydd. Pwysleisiwch bwysigrwydd trefn iach a hunanofal da - mae yna ddigon o erthyglau a fideos am hyn ar-lein y gallwch chi gyfeirio'ch tîm atynt. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n arwain trwy esiampl hefyd. Os yw pobl yn gweld eich bod chi eich hun yn cymryd seibiannau, maen nhw'n fwy tebygol o ddilyn yr un drefn.

5. Gofynnwch am adborth

Fel nifer o bobl eraill, mae'n debyg eich bod chi'n rheoli tîm cwbl anghysbell am y tro cyntaf. Byddwch chi a'ch tîm yn cael profiad o bethau newydd, yn dysgu be' sy'n gweithio a beth sydd ddim, ac yn mireinio'ch arferion.

Er mwyn eich helpu i gael gwell ymdeimlad o sut y gellid gwella'r profiad o weithio o bell, dylech gasglu rhywfaint o adborth. Efallai yr hoffech chi greu arolwg i gipio'r data a'i wneud yn anhysbys er mwyn sicrhau bod yr atebion mor onest â phosib. Os na, yna fe allwch ofyn i'ch cydweithwyr am eu meddyliau a'u hawgrymiadau. Bydd cael adborth yn rhoi mewnolwg da i chi o'r teimlad cyfredol ymysg eich gweithwyr ac yn annog eich tîm i fod yn ddidwyll ac agored.

Wrth fynd ymlaen

Rydym eisoes wedi bod yn gweld symudiad tuag at weithio o bell ac erbyn hyn mae'r clefyd coronafirws wedi gorfodi a chyflymu hyn. Mae llawer yn credu y bydd y pandemig yn cael effaith barhaol ar ein ffordd o weithio, hefo mwy o bobl eisiau parhau i weithio gartref a mwy o gyfarfodydd yn cael eu cynnal o bell. Yn bendant mae yna fanteision sylweddol - dim cymudo / teithio bob dydd, mwy o hyblygrwydd, a dim pethau pethau yn y swyddfa yn tynnu sylw oddi ar ganolbwyntiad - a dim ond rhai enghreifftiau yw'r rhain. Ac i gyflogwyr, gall ddarparu buddion eraill fel gwell morâl a gwell cynhyrchedd gan staff, cadw gweithwyr, a chostau is. Efallai y bydd yn rhyfedd arwain eich tîm o bell ar y dechrau. Bydd yn rhaid i chi ddysgu technegau newydd, addasu i wahanol ffyrdd o gyfathrebu, a dibynnu mwy ar ymddiriedaeth. Ond yn y diwedd, efallai y bydd eich tîm yn gryfach o lawer yn sgil y profiad hwn.